Bydd cyn-arweinydd yr SDLP, John Hume yn cael ei roi i orffwys yn ddiweddarach heddiw ar ôl angladd yn ei ddinas enedigol.

Fe gafodd ei arch ei chludo i Eglwys Gadeiriol Sant Eugene yn Derry nos Fawrth (Awst 4), cyn y gwasanaeth bore heddiw (dydd Mercher, Awst 5).

Bu farw’r gwleidydd a heddychwr o Derry ddydd Llun (Awst 3) yn 83 oed ar ôl brwydr hir â dementia.

Mewn amgylchiadau cyffredin, byddai disgwyl i angladd John Hume ddenu torfeydd enfawr, ond mae niferoedd wedi’u cyfyngu oherwydd y coronafeirws.

Ond roedd golygfeydd emosiynol y tu allan i’r Gadeirlan nos Fawrth wrth i’w weddw, Pat Hume gael ei chysuro gan aelodau’r teulu wrth iddi wylio arch ei gŵr yn mynd i mewn i’r eglwys.

Cynnau cannwyll

Cafodd canhwyllau eu cynnau er cof am y dyn sy’n cael ei gofio am ei rôl wrth greu cytundeb heddwch Gwener y Groglith, ac fe gafodd yr un drefn ei efelychu mewn llawer o gartrefi ar draws Iwerddon, wrth i bobol roi canhwyllau yn eu ffenestri yn unol â chais gan deulu John Hume.

Fe wnaeth yr Arlywydd Michael D Higgins, y Taoiseach Micheal Martin, Prif Weinidog Prydain Boris Johnson ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Brandon Lewis ddal fflamau er cof amdano hefyd.

Roedd John Hume yn allweddol yng nghytundeb Gwener y Groglith a derbyniodd wobr Nobel am y rôl ganolog a chwaraeodd wrth ddod â’r gwrthdaro i ben.

Bydd y gwasanaeth angladdol yn cael ei ddarlledu gan y BBC a RTE.