Mae dadansoddiad yn awgrymu bod gan weithwyr Cymru lai o gyfleoedd i weithio o gartref o’u cymharu â gweddill gwledydd Prydain.

Mae papur briffio Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif bod ychydig o dan ddwy ran o bump (39.9%) o weithlu Cymru yn gallu gweithio o gartref, ffigur sy’n is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 45.2% ac yn sylweddol is na Llundain, lle mae 58.7% yn gallu gweithio o gartref.

Ond mae Cymru’n cymharu’n ffafriol â rhai o brif economïau Ewrop, gan gynnwys yr Almaen, Iwerddon a’r Ffindir.

Amrywio fesul sector a galwedigaeth

Mae’r ymchwil yn dod i’r casgliad fod y potensial ar gyfer gweithio o gartref yn amrywio fesul sector a galwedigaeth ac mae’n gymesur â lefelau incwm uwch.

Mae staff uwch, rheolaethol a phroffesiynol yn fwy tebygol o allu gweithio o gartref, sy’n awgrymu y bydd rhai sy’n ennill incwm uwch wedi gallu rheoli cadw pellter cymdeithasol yn well drwy weithio o gartref.

Yn y cyfamser, does gan rai sectorau a galwedigaethau, sydd â chyflogau is fel arfer, fawr ddim cyfle, os o gwbl, i gynyddu maint y gwaith cartref, sydd yn cynyddu’r risgiau iechyd posibl yn ogystal â’r risg o golli cyflogaeth, oriau, ac incwm yn ystod yr argyfwng.

Mae’r rhain yn cynnwys y sectorau adeiladu, manwerthu a lletygarwch.

“Mae’r gyfran o swyddi y gellir eu perfformio oddi wrth weithleoedd wedi bod yn ffactor bwysig ym mherfformiad yr economi yn ystod yr argyfwng hwn” meddai awdur yr adroddiad Jesús Rodríguez.

“Gyda bron i ddwy ran o bump o weithwyr Cymru yn gallu gweithio o gartref, mae economi Cymru wedi cael cyfle i barhau i weithredu o dan fesurau ymbellhau cymdeithasol.

“Ond, mae’r rhai sy’n gweithio gartref yn ystod ac ar ôl yr argyfwng yn tueddu i fod yn enillwyr uwch. Mae gweithwyr iau a rhai llai addysgedig yn tueddu i fod mewn galwedigaethau a diwydiannau heb fawr o botensial i weithio gartref.

“Dyma ffordd arall y bydd y pandemig yn gwaethygu’r anghydraddoldebau economaidd presennol yn economi Cymru. Dylai llywodraethau ganolbwyntio ar gefnogi’r rheini sy’n ysgwyddo’r baich economaidd mewn sectorau agored ac ansicr.”

Goblygiadau eonomaidd

Mae’r ymchwil yn dangos y bydd goblygiadau economaidd sylweddol i newid parhaol i lefelau uwch o weithio gartref, o ddylanwadu ar lefelau cynhyrchiant rhanbarthol ledled y Deyrnas Unedig, i leihau’r galw am rai swyddi.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto sut y bydd cyfyngiadau yn parhau yn eu lle dros y misoedd nesaf a sut y gellir newid patrymau gwaith dros y tymor hir,” ychwanegodd Jesús Rodríguez.

“Bydd y newid i weithio gartref yn effeithio ar rannau o Gymru yn wahanol.

“Er enghraifft, mae gan rai ardaloedd y lefel isaf o gyflymder band eang boddhaol yn y Deyrnas Unedig, sy’n cyfyngu ar y cyfleoedd i weithio gartref yn yr ardaloedd hynny.

“Bydd gweithio gartref hefyd yn cael effaith sylweddol ar y galw am swyddi, megis gwasanaethau glanhau neu arlwyo sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu crynodiadau o weithwyr swyddfa mewn trefi a dinasoedd.

“Er y bydd swyddi newydd yn dod i’r amlwg hefyd, rôl y Llywodraeth fydd rheoli’r fath newid, yn bennaf drwy gynnig rhwyd ddiogelwch fwy cynhwysfawr a chefnogaeth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.”