Daeth yr holl ddigwyddiadau lleol i ben gyda’r Covid. Doedd dim argoel y byddai unrhyw beth ’mlaen yn unman am gyfnod hir. A gan mai straeon am ddigwyddiadau a hanesion mudiadau oedd wedi bod fwya’ niferus ar y gwefannau bro hyd hynny, bydden ni’n disgwyl iddi fod yn gyfnod tawel a llwm.
Ond ro’n ni’n hollol anghywir!
Y filltir sgwâr, a’r we. Dyna’r ddau beth pwysicaf ym mywydau pobol yn y Cyfnod Sa’ Draw. (Wel, y 5 milltir sgwâr, i fod yn fanwl!) Daeth hi’n amlwg yn glou iawn y byddai gwefannau bro – platfformau ar-lein llawn straeon gan bobol y filltir sgwâr am y filltir sgwâr – yn brysur, yn bwysig ac yn llenwi bwlch mawr ym mywydau pobol.
Mae’r 7 gwefan fro yn Arfon a Cheredigion wedi bod yn llawn profiadau pobol leol o Covid, darnau barn, ac enghreifftiau o weithredu cymdogol cadarnhaol. Fe fuodd Clonc360 yn lle i Eisteddfod Capel-y-groes ddarlledu eu heisteddfod ddigidol dros y Pasg. Dylanwadodd y mentergarwch hwnnw ar yr Urdd i greu Eisteddfod T, sy’n dangos gwerth gweithredu wrth ein traed, a rhannu ein stori.
Cynhaliwyd lansiad digidol i 4 o’r gwefannau bro sydd wedi’u gwreiddio yn y cymunedau lleol – diwrnodau’n llawn fideos amrywiol o beth oedd pobol yn ei wneud o adre yn y Cyfnod Sa’ Draw – o ras feics rithiol Clwb Seiclo Aber i hanes lleol i gwis Nyth Cacwn!
Mae cynnydd wedi bod yn awydd pobol leol i ddarllen, gwylio a gwrando ar straeon lleol. Ac mae pobol ar lawr gwlad wedi darganfod yr egni a’r creadigrwydd i ddefnyddio eu gwefannau i roi llwyfan i’w llais.
Elfen arall bwysig o’r cyfnod yw cyfraniad gohebydd lleol proffesiynol golwg360, fu’n cyhoeddi gwybodaeth a straeon newyddion o bersbectif y bröydd. Creodd fideos yn cyfweld ag arweinydd y ddau Gyngor Sir, lle bu’n holi cwestiynau caled gan y bobol leol iddynt. Roedd pobol yn awchu am wybod mwy am lefel o ddemocratiaeth sydd ddim yn cael cymaint sylw gan gyfryngau cenedlaethol.
Heddiw, mae Pwyllgor Diwylliant ein Senedd yn cwrdd i drafod dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru.
Mae’r cyfnod diweddaraf yma wedi profi bod galw ac angen am straeon lleol. Trwy’r gymysgedd iach o fuddsoddi mewn galluogi pobol leol i greu, a chefnogi newyddiaduraeth leol, gallwn barhau i wella’r diffyg democrataidd, cynyddu defnydd pobol o’r Gymraeg a chynyddu hunangred pobol leol.
Bydd hynny yn ei dro yn creu cymunedau iach sy’n trafod, creu a rhannu’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw.