Nid yw’n hysbys eto faint o wladolion Prydeinig sydd ymhlith y rhai sydd wedi eu dal yn sgil ffrwydrad enfawr yng nghyflafan Beirut, medda’r Swyddfa Dramor.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson fod y Llywodraeth yn barod i roi cymorth mewn unrhyw ffordd y gallan nhw, tra dywedodd y Swyddfa Dramor ei bod yn monitro’r sefyllfa’n agos.
Dywedodd Gweinidog Ysgolion Nick Gibb fod yr holl staff Llysgenhadaeth sydd wedi’u lleoli ym Meirut yn cael eu cyfrif, ond bod rhai wedi dioddef “anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu bywyd”.
‘Brawychus’
Mae’r ffrwydrad, a ddigwyddodd ddydd Mawrth, Awst 4, wedi lladd o leiaf 100 o bobl ac anafu mwy na 4,000 o bobl eraill. Credir bod mwy na 100 o bobl ar goll, ond dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoli Argyfwng y Groes Goch yn Libanus, Rodney Eid, ei fod yn disgwyl i nifer y meirwon godi.
“Mae’r lluniau a’r fideos o Beirut heno yn frawychus” meddai Boris Johnson nos Fawrth, Awst 4 mewn trydar.
“Mae fy holl feddyliau a gweddïau gyda’r rhai sydd wedi cael eu dal yn y digwyddiad ofnadwy hwn.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn barod i roi cymorth mewn unrhyw ffordd y gallwn, gan gynnwys i’r gwladolion Prydeinig yr effeithiwyd arnyn nhw.”
‘Rhy gynnar i ddyfalu’
Dywedodd Abbas Ibrahim, Prif Swyddog Diogelwch Cyffredinol Libanus, y gallai’r ffrwydriad fod wedi cael ei achosi gan ddeunydd ffrwydrol iawn a gafodd ei gymryd oddi ar long beth amser yn ôl a’i storio yn y porthladd.
Ond dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump fod cadfridogion milwrol wedi dweud wrtho eu bod nhw’n “teimlo” bod y ffrwydrad yn ganlyniad i “ymosodiad ofnadwy” sy’n fwyaf tebygol o gael ei achosi gan fom.
“Mae’n ymddangos felly, yn seiliedig ar y ffrwydrad,” meddai Donald Trump wrth ohebwyr yn Washington.
Ond dywedodd Nick Gibb wrth Sky News ei bod yn “rhy gynnar i ddyfalu”:
“Mae Llywodraeth Libanus wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal ymchwiliad ac yr ydym yn barod i helpu Llywodraeth Libanus gydag unrhyw gymorth technegol sydd ei angen arnynt, ond mae hyn yn drychineb ac mae awdurdodau Libanus, wrth gwrs, yn ymchwilio i achos y drychineb honno a chredaf cyn inni gael canlyniadau’r ymchwiliad hwnnw, ei bod yn rhy gynnar i ddyfalu.”