Mae ffigurau sydd wedi dod i law golwg360 yn dangos bod mwy o swyddi Urdd Gobaith Cymru yn y fantol na’r disgwyl, gydag un safle yn wynebu colli dros 70% o’u gweithlu, a safle arall yn wynebu colli 57.5%.
Cyhoeddodd y mudiad fis Gorffennaf ei fod yn wynebu colli swyddi a thorri gwasanaethau o ganlyniad i sefyllfa’r coronafeirws.
Yn wreiddiol dywedodd Urdd Gobaith Cymru fod hyd at 80 o swyddi yn y fantol, a bod 70 o swyddi gweithwyr achlysurol hefyd wedi’u heffeithio.
Ond mae ffigurau diweddaraf y mae Golwg360 wedi eu gweld yn dangos fod 90 o swyddi yn y fantol ar hyn o bryd, yn ogystal â’r swyddi achlysurol.
Cost staffio flynyddol yr Urdd yw £6 miliwn, ond “hyd yn oed wedi gwneud toriadau i’r gweithlu” mae’r mudiad “yn rhagweld colledion ariannol sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf” a gostyngiad incwm o £14 miliwn.
Cadarnhaodd y llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru wrth Golwg360 fod y mudiad wedi cychwyn ar gyfnod ymgynghori gyda staff.
Mae’r gwersylloedd ymhlith yr adrannau sydd yn wynebu’r gostyngiad mwyaf i’w gweithlu:
- Gwersyll yr Urdd Caerdydd
Mae 7 o bobol yn gweithio yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd ar hyn o bryd – mae 5 o’r swyddi hyn yn y fantol – gostyngiad o 71.4% yng ngweithlu’r gwersyll.
Golyga hyn mai dim ond 2 swydd fydd yn weddill yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd.
- Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn hefyd yn wynebu colli dros hanner ei weithlu.
Mae 52 o bobol yn gweithio yn y Gwersyll ar hyn o bryd – mae 30 o’r swyddi hyn yn y fantol – gostyngiad o 57.5% yng ngweithlu’r gwersyll.
- Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Mae 60 o bobol yn gweithio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ar hyn o bryd – mae 18 o’r swyddi hyn yn y fantol – gostyngiad o 30% yng ngweithlu’r gwersyll.
Mae’r Gwersylloedd yn parhau i fod ar gau, ac yn wynebu gostyngiad incwm misol o £500,000 oherwydd y coronafeirws.
- Eisteddfod yr Urdd
Cafodd holl wasanaethau’r Urdd eu cau ar Fawrth 20, gan gynnwys y tri gwersyll a holl weithgareddau adran y maes a chwaraeon ynghyd â gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.
Os bydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn caniatáu y bwriad yw cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mis Mai 2021.
Mae 9 o bobol yn gweithio yn adran sy’n gyfrifol am yr Eisteddfod, ac mae 2 o’r swyddi hyn yn y fantol.
Torri Gwasanaethau
Er i Urdd Gobaith Cymru ddweud yn eu datganiad gwreiddiol ar Orffenaf 15 y bydd gwasanaethau yn cael eu torri, nid yw’n glir eto pa wasanaethau sydd mewn perygl. Mae manylion y colledion swyddi mewn adrannau eraill fel a ganlyn:
- Ieuenctid a Chymuned
Mae 46 o bobol yn gweithio yn adran Ieuenctid a Chymuned yr Urdd ar hyn o bryd – mae 22 o’r swyddi hyn yn y fantol – gostyngiad o 48% yng ngweithlu’r adran.
- Chwaraeon
Mae 23 o bobol yn gweithio yn adran Chwaraeon yr Urdd ar hyn o bryd – mae 8 o’r swyddi hyn yn y fantol – gostyngiad o 35% yng ngweithlu’r adran.
- Cyfathrebu a chylchgronau
Fis diwethaf (Gorffennaf 13) cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru y bydd eu cylchgronau i gyd yn troi’n ddigidol am ddim i bawb am y flwyddyn ysgol nesaf.
Dywedodd y mudiad bryd hynny bod y cyfnod diweddar wedi amlygu’r angen am gynnwys Cymraeg cyfleus a hawdd i’w gyrraedd ar gyfer plant a phobol ifanc.
Er hyn mae swyddi yn y fantol yn yr adran Cyfathrebu a Chylchgronau hefyd.
Mae 8 o bobol yn gweithio yn yr adran ar hyn o bryd, ac mae 2 o’r swyddi hyn yn y fantol.
- Canolog
Mae adran Ganolog yr Urdd, sydd yn gyfrifol am gyllid, polisi a phrosiectau, hefyd yn wynebu gostyngiad o 20% yng ngweithlu’r adran.
Mae 15 o bobol yn gweithio yn yr adran ar hyn o bryd – mae 3 o’r swyddi hyn yn y fantol.
- Prentisiaethau
Ar y llaw arall mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych i gynyddu’r nifer o brentisiaethau o 6 i 7.
“Cyfnod anodd a thrist iawn i’r mudiad”
Mewn ymateb i Golwg360 dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith na fyddai’n addas i’r mudiad ymateb yn llawn yn ystod y cyfnod ymgynghori:
“Mae’r Urdd bellach wedi cychwyn ar gyfnod ymgynghori gyda staff ynglŷn â strwythur staffio i’r dyfodol”, meddai’r llefarydd.
“Nid yw’n addas yn ystod y cyfnod hwn felly i wneud unrhyw sylw cyhoeddus pellach wrth i’r broses fewnol hon fynd yn ei blaen.
“Mae’n gyfnod anodd a thrist iawn i’r mudiad ac i staff, ac rydym yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn ers ein cyhoeddiad diweddar.”