Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi y bydd eu cylchgronau i gyd yn troi’n ddigidol am ddim i bawb am y flwyddyn ysgol nesaf, 2020-21.
Mae’r Urdd wedi bod yn cynhyrchu cylchgronau ers dechrau’r mudiad ac erbyn hyn yn creu tri gwahanol – Cip ar gyfer darllenwyr cynradd, Bore Da ar gyfer dysgwyr Cymraeg cynradd a IAW ar gyfer dysgwyr Cymraeg uwchradd.
Yn ôl yr Urdd mae’r cyfnod diweddar wedi amlygu’r angen am gynnwys Cymraeg cyfleus a hawdd i’w gyrraedd ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn arbennig dysgwyr sydd o bosib ddim yn ymwneud â’r iaith y tu allan i’r ysgol.
Bydd y tri chylchgrawn ynghyd â chynnwys ychwanegol ar y we yn golygu bod gweithgareddau, gweithlenni a chomics ar gael yn rhad ac am ddim i bawb.
Cyrraedd pob plentyn yng Nghymru
“Rydyn ni yn ofnadwy o falch y byddwn ni yn gallu cynnig ein cylchgronau am ddim i blant ac ysgolion Cymru flwyddyn nesaf a bod y Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r cynllun newydd,” meddai Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu’r Urdd.
“Golyga hyn bod gennym y potensial i gyrraedd pob un plentyn yng Nghymru gyda chylchgrawn Cymraeg apelgar a lliwgar, am ddim.
Datblygiad cyffrous arall, wrth gwrs, ydi bod Mellten rŵan ar gael o fewn tudalennau Cip, fydd yn un ffrwydrad cyffrous i’r darllenwyr.”
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am noddi tudalennau Seren a Sbarc, sef y cymeriadau sy’n annog plant i siarad Cymraeg, yng nghylchgronau Cip a Bore Da.
“Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyhoeddi cartŵn a gweithgareddau Seren a Sbarc yng nghylchgronau’r Urdd er mwyn helpu plant Cymru i gyrraedd targedau’r Siarter Iaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn hapus iawn i gadarnhau byddwn yn parhau i gefnogi cyhoeddi’r cylchgronau yn ddigidol yn ystod 2020-21. Golyga hyn y bydd mwy o blant Cymru, boed o gartrefi Cymraeg neu di-Gymraeg, yn derbyn deunydd darllen Cymraeg am ddim.”