Mae ail ddinas fwyaf Catalwnia, L’Hospitalet de Llobregat, yn ardal fetropolitan Barcelona wedi cofnodi cyfres o achosion o’r coronafeirws sydd wedi achosi i nifer yr heintiau sy’n cael eu cofnodi’n ddyddiol dreblu o fewn wythnos.
Gyda 30 o achosion newydd wedi’u hadrodd wythnos yn ôl, mae nifer yr achosion newydd bellach yn 107.
Mae maer L’Hospitalet, Núria Marín, wedi galw am “ragofalon eithafol” ac i bobl gydymffurfio â’r mesurau diogelwch i atal lledaeniad y firws.
Ddydd Sadwrn, rhoddodd Llywodraeth Catalwnia stop ar yr holl ymweliadau a derbyniadau i gartrefi preswyl yn ardal Lleida er mwyn osgoi heintiau “ymhlith y bobl sydd fwyaf bregus”.
Mae sir Segrià, yn rhanbarth Lleida, wedi bod dan glo am wythnos ac mae’n parhau i gofnodi cynnydd mewn heintiadau Covid-19.