Roedd nifer y teithwyr yn Heathrow wedi gostwng 95% ym mis Mehefin o’i gymharu a llynedd, gyda dim ond 350,000 o bobl yn teithio drwy’r maes awyr.

Eu teithiau i Ogledd America ac Affrica welodd y gostyngiad mwyaf, yn ôl Heathrow, ac ar draws pob cyrchfan roedd nifer y teithiau hedfan i lawr 82% gan fod y galw am yn parhau i fod yn isel oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dywed Heathrow bod y galw am hediadau i’r Deyrnas Unedig wedi gostwng yn sylweddol pan ddaeth polisi cwarantin y Llywodraeth i rym ar Fehefin 8.

“Roedd y coridorau teithio yn gam cyntaf gwych ac yn awr mae angen i ni fynd ymhellach i ddiogelu swyddi a rhoi hwb cychwynnol i’r economi, drwy ganiatáu i deithwyr iach deithio’n rhydd rhwng y Deyrnas Unedig a gweddill y byd,” meddai Prif Weithredwr Heathrow, John Holland-Kaye.

“Rydyn ni’n barod i dreialu system brofi teithwyr ar ôl cyrraedd o wledydd ‘coch’ fel dewis amgen i gwarantîn, ond byddai profi teithwyr cyn iddyn nhw fynd ar yr awyren yn well.

“Mae hyn yn gofyn am safon ryngwladol gyffredin ar gyfer profion, y gallai Llywodraeth Prydain ei sefydlu a’i harwain yn fyd-eang.”