Mae’r gwleidydd Zindzi Mandela, merch yr arweinwyr gwrth-apartheid Nelson a Winnie Mandela, wedi marw yn 59 oed.

Yn ôl adroddiadau teledu gan Gorfforaeth Ddarlledu De Affrica, fe fu farw Zindzi Mandela yn yr ysbyty yn Johannesburg yn gynnar fore Llun (Gorffennaf 13).

Roedd hi’n llysgennad De Affrica yn Nenmarc adeg ei marwolaeth.

Daeth Zindzi Mandela i amlygrwydd rhyngwladol yn 1985 ar ôl iddi ddarllen llythyr gan ei thad yn gwrthod cynnig gan y llywodraeth ar y pryd, o flaen torf mewn cyfarfod cyhoeddus, a gafodd ei ddarlledu led led y byd.

Roedd y llywodraeth wedi cynnig rhyddhau Nelson Mandela o’r carchar ar yr amod ei fod yn condemnio’r trais gan aelodau ei fudiad, Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) yn erbyn apartheid. Dyma’r system greulon o wahaniaethu ar sail hil a gafodd ei orfodi yn Ne Affrica ar y pryd.