Mae Urdd Gobaith Cymru yn wynebu colli swyddi a thorri gwasanaethau o ganlyniad i sefyllfa’r coronafeirws.

Fe ddaw wrth i’r mudiad wynebu’r hyn a ddisgrifiwyd gan ei Brif Weithredwr fel ‘cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes’ o ganlyniad i sefyllfa Covid19.

Mae’r mudiad wedi datgelu ei fod yn wynebu gostyngiad incwm o  £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf sy’n golygu bydd newidiadau sylweddol i adnoddau’r Urdd.

Bydd hyn yn cynnwys toriadau yn ei wasanaethau a cholledion swyddi.

Cafodd gweithlu’r mudiad wybod mewn cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 15) fod rhaid i’r Urdd addasu ei holl wasanaethau er mwyn cynllunio’r ddarpariaeth ar gyfer ei aelodau dros y cyfnod nesaf a diogelu parhad i’r mudiad yn yr hir dymor.

Daeth i’r amlwg fod hyd at 80 o swyddi yn y fantol, a bod swyddi 70 o weithwyr achlysurol allan o gyfanswm o 320 o staff wedi’u heffeithio.

Yn ôl y mudiad, mae mwyafrif staff yr Urdd yn barod ar gennad, a bod hynny am ddod i ben ddiwedd mis Hydref.

Daw costau staffio’r Urdd i £6m y flwyddyn a hyd yn oed wedi gwneud toriadau i’r gweithlu. Mae’r Urdd yn rhagweld colledion ariannol sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.

Coronafeirws

Cafodd holl wasanaethau’r Urdd eu cau ar Fawrth 20, gan gynnwys y tri gwersyll a holl weithgareddau adran y maes a chwaraeon ynghyd â gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

Gyda’r Gwersylloedd yn parhau i fod ar gau i gyrsiau preswyl, sy’n golygu gostyngiad incwm misol o £500,000, mae’r rhagolwg ariannol am y 18 mis nesaf yn dangos colledion o dros £3.4miliwn i’r Urdd.

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist i’r mudiad unigryw hwn sy’n rhan annatod o fywyd cymaint o bobl a phlant yng Nghymru” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae effaith y pandemig wedi bod yn ddinistriol i bob un adran o’r Urdd.

“Nid oes dewis ond ail edrych ar wariant y mudiad gan barhau i gynnig rhai gwasanaethau o fewn canllawiau diogelwch llym gan gofio’r brif amcan o ddiogelu dyfodol y mudiad.

“Mae’r newyddion yma yn peri gofid a phryder i’n gweithlu a’n consyrn pennaf yn yr wythnosau nesaf fydd eu lles hwy. Bydd trafodaethau yn mynd yn eu blaenau ymhob adran i weld sut bydd y toriadau yn effeithio ar staff ac ar ddyfodol gwasanaethau’r adrannau hynny.”

Pwyllog

Mae Sian Lewis yn awyddus i bwysleisio nad yw’r toriadau yn adlewyrchiad o safon gwaith nac ymroddiad – sefyllfa a gododd yn gyfan gwbl oherwydd elfennau y tu hwnt i’w rheolaeth yw hon, medden nhw, sef Covid19.

“Rydym fel Pwyllgor Gwaith Argyfwng, Ymddiriedolwyr ac Uwch Dim Rheoli wedi bod yn bwyllog wrth drafod gan sicrhau ein bod wedi edrych ar bob ffynhonnell posib er mwyn achub gymaint o’r gweithlu ag sy’n bosib.

“Mae’r Urdd wastad wedi rhoi pwyslais ar greu incwm ei hun heb fod yn or ddibynnol ar arian  cyhoeddus, ac wedi llwyddo i ddatblygu model busnes llwyddiannus.

“Y llynedd, roedd trosiant yr Urdd dros £10m gyda chyfraniad o 19% yn unig gan y pwrs cyhoeddus. Bellach gyda’n gwersylloedd ar gau i gyrsiau preswyl, diffyg incwm ein gwaith cymunedol a chwaraeon, mae’r sefyllfa wedi rhoi ac yn parhau i osod straen enfawr ariannol ar yr Urdd.

“Ni fyddai modd i unrhyw sefydliad oroesi sefyllfa o’r fath heb wneud toriadau ac yn anffodus dyna sy’n wynebu’r Urdd.

“Rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn dau gais cyllid ac wedi derbyn cyfanswm cefnogaeth gan Lywodraeth  Cymru o £3.1m. Mae’r cymorth yma’n werthfawr tu hwnt ac fe fydd yn ein galluogi ni gadw fframwaith o staff craidd i gynnal sylfaen o wasanaethau ar draws ein holl blatfformau a pharhau a chwblhau ein prosiectau adeiladu.”