Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Awst 5) i drafod sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol yng Nghymru.

Daw’r drafodaeth wedi i nifer o gwmnïau gyhoeddi eu bwriad i dorri swyddi.

Cyhoeddodd cwmni Reach yn ddiweddar eu bod nhw am dorri 550 o swyddi ar draws y cwmni. Mae Reach, perchnogion y Daily Mirror a’r Daily Express, hefyd yn berchen ar y Western Mail, y Daily Post, y South Wales Echo a’r South Wales Evening Post.

Yn cynrychioli’r cwmni gerbron y pwyllgor roedd Alan Edmunds, cyn-olygydd y Western Mail sydd bellach yn uwch-reolwr gyda Reach, a Paul Rowland, Prif Olygydd Wales Online.

Cefnu ar newyddiaduraeth Gymreig?

Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ wedi cyhuddo Reach o gefnu ar newyddiaduriaeth Gymreig.

Dywedodd yr undeb wrth y pwyllgor byddai’r ailstrwythuro yn arwain at lai o sylw i Gymru, a mwy o ddeunydd o Loegr y cael ei ddefnyddio i lenwi papurau a gwefannau yng Nghymru.

Roedd  NUJ hefyd wedi ysgrifennu llythyr at y Pwyllgor yn son am eu pryderon na fyddai golygydd Media Wales wedi’i leoli yng Nghaerdydd “a bydd yr adran yn cael ei rhedeg gan Marketplace Publisher sydd wedi’i leoli yn Birmingham.”

Wfftiodd Alan Edmund yr awgrymiadau hyn gan ddweud na fyddai newid i ochr olygyddol nag ariannol y cwmni.

“Does dim bwriad gennym o uno Cymru â Chanolbarth Lloegr”, meddai.

“Bydd holl benderfyniadau golygyddol Cymru yn parhau i gael eu gwneud yng Nghymru ac yn cael eu gwneud gan Paul [Rowland]”, meddai.

“Sioc fawr”

Eglurodd Alan Edmunds fod cynllun Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth Prydain wedi bod yn hanfodol i Media Wales yn ystod y cyfnod yma.

Ychwanegodd y byddai’n croesawu ymestyniad i’r cynllun sydd fod i ddod i ben ddiwedd fis Hydref.

Mewn ymateb i hyn pwysleisiodd Pamela Morton o undeb newyddiadurwyr (NUJ) fod newyddiadurwyr yn wynebu colli ei swyddi nawr.

“Y gwir yw ein bod newyddiadurwyr mewn perygl o gael eu diswyddo nawr, a bydd pobol efallai wedi gadael erbyn diwedd mis Awst”, meddai.

“Roedd yn sioc fawr – pythefnos i mewn i’r pandeimc coronafeirws cawsom wybod bod popeth yn iawn, bythefnos yn ddiweddarach roedd pobol yn cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo ac roedd toriad cyflog o 2% yn cael ei orfodi.”

90 o swyddi mewn perygl

Eglurodd Paul Rowland fod cydweithio yn holl bwysig rhwng adrannau yng Ngogledd a De Cymru.

“O ran y niferoedd, mae tua 90 o newyddiadurwyr mewn perygl ar draws Gogledd a De Cymru”, meddai .

“Mae’n debygol y bydd tua 20 i 21 yn mynd ar ddiwedd y broses [ymgynghori].”

“Ein gobaith yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel mewn digidol ac mewn print.”

Newid mawr

Ychwanegodd Alan Edmund fod newid mawr wedi bod i newyddiaduriaeth yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod y setor wedi symud i ffwrdd o brint, mae llawer o bapurau ledled y wlad wedi cau yn barod.

“Yr hyn rydym ni wedi’i wneud yw rheoli ein teitlau er mwyn eu cadw nhw i fynd, a gweithio’n galed iawn i ddechrau datblygu opsiynau digidol eraill ar gyfer ein darllenwyr, megis ‘Wales Online’ ac ‘In your area’.

“Wrth i ddarllenwyr symud ar-lein mae’n bwysig ein bod ni’n symud gyda nhw.”

‘Cytundeb hyd braich’

Eglurodd Martin Shipton, Prif Ohebydd y Western Mail a Thad Capel Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) fod gan yr Undeb bryderon am gynlluniau Media Wales ers blynyddoedd.

“Un o’n pryderon mwyaf ni fel undeb ers blynyddoedd bellach yw’r ffordd y mae’r cwmni wedi bwriadu i ddisodli refeniw print coll gyda mwy o refeniw digidol, ac yn syml, dydy hyn heb ddigwydd.”

Wrth ymateb i gwestiwn gan Alun Davies, Aelod o’r Senedd dros Blaenau Gwent, am pa mor addas fyddai cyd weithrediad rhwng Llywodraeth Cymru â’r wasg yng Nghymru dywedodd Martin Shipton, y byddai hynny yn bosib, ond byddai rhaid cadw “hyd braich”.

“Wrth gwrs, byddai’n ymarferol sefydlu cytundeb hyd braich er mwyn ariannu’r cyfryngau, eisoes mae Llywodraeth Cymru, drwy’r Cyngor Llyfrau, yn ariannu golwg360 er enghraifft a’r papurau bro sy’n derbyn arian cyhoeddus”, meddai.

“Felly nid yw allan o’n cyrraedd ni i roi cynllun at ei gilydd a fyddai’n cynnwys mesurau diogelwch yr ydych chi [Llywodraeth Cymru] a minnau’n awyddus i sicrhau sy’n parhau’n bresennol.”