Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i orfodi sefydliadau i gau o ddydd Llun nesaf (Awst 10) ymlaen os na fyddan nhw’n dilyn y rheolau i leihau ymlediad y coronafeirws.

Yn ystod cyfarfod llawn Senedd Cymru heddiw (Awst 5) bu’r Prif Weinidog yn rhoi diweddariad am reoliadau diweddaraf y coronafeirws.

“Cyn belled ag y mae busnesau yn y cwestiwn, yn wahanol i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae cyfrifoldeb uniongyrchol ar y rheini sy’n gyfrifol am y sefydliadau [yng Nghymru]”, meddai Mark Drakeford

“Byddwn yn darparu pwerau newydd i awdurdodau lleol allu ymyrryd yn gyflym lle mae angen – bydd hyn yn cynnwys y gallu i orfodi i sefydliad gau os yw hynny’n angenrheidiol.

“Er bod mwyafrif sylweddol y busnesau a’r unigolion yn gweithio’n galed i gadw Cymru’n ddiogel – nid yw’n wir am bawb.

“Mae unigolion sy’n ymateb fel pe bai’r argyfwng drosodd yn risg i eraill – yn syml, mae hynny’n tanseilio’r ymdrechion y mae pawb arall eisoes wedi eu gwneud.”

Dim newid i gyfarfod teulu a ffrindiau dan do

Er i Lywodraeth Cymru ddweud yr wythnos diwethaf y bydden nhw’n trafod yr opsiwn i ddarparu mwy o ryddid i deuluoedd a ffrindiau fedru gweld ei gilydd dan do mae’r Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn unrhyw newid ar hyn o bryd.

“Mae ein trafodaethau wedi dangos mai dyma’r cam mwyaf peryglus o lacio’r cyfyngiadau”, meddai’r Prif Weinidog.

“Rydym felly wedi penderfynu gohirio unrhyw benderfyniad ar hyn am y tro.

“Er mai’r nod yw adfer ychydig o’r rhyddid ym mywydau pobol –  dim ond os gellir cyfiawnhau gwneud hynny byddem yn caniatáu cyfarfod teulu a ffrindiau dan do.”

“Bydd yr Aelodau [o’r Senedd] yn ymwybodol bod y rhagolygon am y coronafirws wedi tywyllu ledled y byd.

“Ni ddylai neb feddwl na all y firws hwn ddychwelyd yn gyflym yng Nghymru hefyd.”

Achosion lleol dan reolaeth

Eglurodd y Prif Weinidog fod 1,418 o brofion wedi eu cynnal yn ardal Wrecsam, a dim ond 11 o achosion newydd wedi eu cofnodi:

“Yn Ysbyty Wrexam Maelor, mae’r sefyllfa yn parhau i gael eu hadolygu ond ni adroddwyd am unrhyw achosion newydd gan ysbyty ar 6 o’r 7 diwrnod diwethaf.”

Hefyd, dywedodd Mr Drakeford mai’r gred yw “bod yr achosion yn Rowan Foods [ger Wrecsam] bellach dan reolaeth”.