Cafodd Caroline Flack ei “gadael i lawr yn ddifrifol gan yr awdurdodau” a chafodd ei “herlid” gan y wasg oherwydd ei hachos llys yn ystod yr wythnosau cyn iddi ladd ei hun, clywodd y cwest i’w marwolaeth.
Daethpwyd o hyd i’r gyflwynwraig 40-mlwydd-oed, oedd yn adnabyddus am gyflwyno Love Island ac X Factor, yn farw yn ei chartref yn Stoke Newington, gogledd-ddwyrain Llundain, ar Chwefror 15 2020.
Roedd hi wedi bod drwy achos llys am ymosod ar ei chariad, cyn chwaraewr tenis a’r model, Lewis Burton, ym mis Rhagfyr.
‘Treial sioe’
Yn Llys y Crwner yn nwyrain Llundain, darllenodd y Crwner, Mary Hassell, ddatganiadau ar ran mam Caroline Flack, Chris Flack, oedd yn amlinellu ei phryderon am ei merch.
“Rwy’n credu i Caroline gael ei gadael i lawr yn ddifrifol gan yr awdurdodau ac yn arbennig gan Wasanaeth Erlyn y Goron” meddai.
“Rwy’n teimlo bod yr erlynydd yn gas wrth Caroline a fy nheulu. Bygythiwyd fy arestio pan geisiais siarad.
“Ni ddylai bod yn adnabyddus ganiatáu triniaeth arbennig, ond ni ddylai ganiatáu gwneud enghraifft o rywun chwaith.”
Troelli allan o reolaeth
Dywedodd efaill Caroline Flack, Jody, ei bod yn credu bod Caroline wedi ceisio lladd ei hun ym mis Rhagfyr, cyn ei hymddangosiad cyntaf yn y llys am yr ymosodiad.
Dywedodd fod Caroline “mewn cyflwr pryderus iawn” cyn ei marwolaeth a dywedodd fod ambiwlans wedi ei alw ati bedair gwaith yn y gorffennol.
“Cafodd ei galw’n ‘lladdwr’ ac yn ‘gamdriniwr’ ar flaen y papurau newydd” meddai Jody.
“Roedd y wasg a’r cyhoedd yn gweld hyn fel ongl ddifyr iawn, ac roedd hi’n troelli allan o reolaeth.
Dywedodd fod rhannau o’r wasg yn “loetran” ac wedi talu i’r cymdogion roi gwybod iddyn nhw am ei symudiadau.
“Treuliodd Caroline fisoedd olaf ei bywyd yn cuddio y tu mewn, yn ofni’r gamdriniaeth” meddai Jody Flack.
Beirniadodd tîm rheoli Caroline Flack Wasanaeth Erlyn y Goron am gynnal “show trial“.
Fodd bynnag, mae Gasanaeth Erlyn y Goron wedi cynnal archwiliad i’r mater a datgan fod yr achos wedi ei drin yn “briodol”.