Bu farw merch dwy flwydd oed ac mae dau wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac esgeuluso, meddai’r heddlu.

Bu farw Lola James, o Hwlffordd, Sir Benfro, yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf, bedwar diwrnod ar ôl i swyddogion gael eu galw i gyfeiriad yn y dref fore Gwener, Gorffennaf 17.

Ar ddydd Mercher, Awst 5, rhyddhaodd Heddlu Dyfed-Powys deyrnged i’r plentyn bach, a ysgrifennwyd gan ei thad, Dan Thomas, a ddywedodd y byddai’n ceisio cyfiawnder dros ei marwolaeth “greulon”.

Teyrnged tad

“O’r tro cyntaf i mi gyfarfod fy merch hardd, Lola Patricia James” meddai Dan Thomas, “roedd fy nghalon yn llawn llawenydd o’r fath hapusrwydd na theimlais erioed o’r blaen, cariad diamod a’r angen i’w diogelu am weddill ei bywyd.

“Nid mewn miliwn o flynyddoedd fyddwn i wedi meddwl y byddai ei bywyd yn cael ei gipio oddi arni mewn ffordd mor greulon.”

Datganiad yr Heddlu

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: “Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Hwlffordd fore Gwener Gorffennaf 17.

“Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosodiad ac esgeulustod, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

“Mae ei theulu yn parhau i gael ei chefnogi gan swyddogion hyfforddedig arbenigol.”