Mae Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth Prydain wedi agor am geisiadau heddiw (Ebrill 20)- 10 diwrnod o flaen yr amserlen.
Bydd busnesau nawr yn gallu hawlio hyd at £2,500 y mis tuag at gyflog pob aelod o staff.
Mae disgwyl i’r cynllun helpu miloedd o gwmnïau ar draws y Deyrnas Unedig, gydag arian yn cyrraedd cyfrifon banc busnesau oddeutu 6 diwrnod gweithio ar ôl gwneud cais.
Bydd miliynau o bobl ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn elwa o’r cynllun, meddai’r Llywodraeth, gyda busnesau megis Pret a Manger, Brewdog a Timpson yn ei ddefnyddio i dalu 80% o gyflogau eu staff tra bod busnesau’r stryd fawr wedi cau yn sgil pandemig y coronafeirws.
Mae gan wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi broses geisiadau cam wrth gam gyda 5,000 o staff yn gweithio ar ffonau a gwasanaethau webchats er mwyn sicrhau bod unrhyw gwestiynau’n cael eu hateb.
“Diogelu miliynau o swyddi”
“Bydd ein Cynllun Cadw Swyddi yn diogelu miliynau o swyddi ar draws y wlad ac mae nawr yn weithredol,” meddai’r Canghellor Rishi Sunak.
“Mae’n hanfodol bod ein heconomi’n ôl ar waith cyn gynted a’i bod yn ddiogel – a bydd y cynllun hwn yn caniatáu i hynny ddigwydd.”
Tra bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi dweud: “Fe wnawn beth bynnag sydd ei angen i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau yn y cyfnod anodd hwn.
“Rwyf yn annog busnesau yng Nghymru i wneud defnydd o’r Cynllun Cadw Swyddi, gan ein galluogi ni i ddiogelu swyddi a diogelu dyfodol ein heconomi.”
Wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor bod y cynllun yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin, gan adlewyrchu’r ffaith bod mesurau lockdown yn parhau.