Mae Morgannwg ar fin colli gêm griced gynta’r tymor, wrth iddyn nhw gyrraedd 126 am bump erbyn diwedd trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yng nghystadleuaeth Tlws Bob Willis.
Maen nhw’n cwrso nod o 456 gyda diwrnod yn weddill o’r ornest, a dim ond pum wiced wrth gefn.
Tarodd Tom Abell 119 – ei chweched canred dosbarth cyntaf erioed – i’r tîm cartref ar ôl iddyn nhw ddechrau’r diwrnod ar 131 am ddwy yn eu hail fatiad. Fe wynebodd e 167 o belenni, gan daro 13 pedwar a dau chwech.
Collodd James Hildreth ei wiced oddi ar belen gynta’r dydd, pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am 45.
Yn absenoldeb George Bartlett, sgoriodd yr eilydd cyfergyd Ben Green 54 yn ei drydedd gêm dosbarth cyntaf i’r sir.
Cyrhaeddodd Abell ei hanner canred oddi ar 88 o belenni gydag ergyd i’r ffin oddi ar fowlio Marchant de Lange, ei seithfed yn y batiad, ac fe gyrhaeddodd ei ganred – ei ail erioed yn Taunton – oddi ar 163 o belenni.
Roedd Green ac Abell wedi adeiladu partneriaeth o 82 erbyn i Abell gael ei ddal ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr Kieran Bull am 119, a’r sgôr yn 213 am dair.
Cyrhaeddodd Green ei hanner canred oddi ar 150 o belenni cyn cael ei ddal gan Graham Wagg oddi ar fowlio Dan Douthwaite, a’r sgôr yn 282 am chwech.
Erbyn hynny, roedden nhw hefyd wedi colli Steven Davies, a gafodd ei fowlio gan Bull.
Collodd Gwlad yr Haf ddwy wiced arall – Jamie Overton, wedi’i ddal gan Charlie Hemphrey oddi ar fowlio Douthwaite a Roelof van der Merwe, wedi’i ddal gan Nick Selman oddi ar fowlio Bull, cyn cau’r batiad ar 290 am wyth.
Morgannwg yn cwrso
Os oedd nod Morgannwg yn edrych yn annhebygol ar ddechrau’r batiad, roedd bron yn amhosib erbyn diwedd y dydd, wrth iddyn nhw golli un batiwr ar ôl y llall am yr ail waith yn y gêm yn erbyn bowlwyr cryf y Saeson.
Cafodd Nick Selman ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Craig Overton oddi ar drydedd pelen y batiad, cyn i’r brodyr Jamie a Craig Overton gyfuno – y naill yn maesu a’r llall yn bowlio – i waredu Kiran Carlson yn y seithfed pelawd.
Roedd y sir Gymreig yn 29 am dair pan gafodd Charlie Hemphrey ei ddal gan Jamie Overton oddi ar ei fowlio’i hun.
Adeiladodd Billy Root a’r capten Chris Cooke bartneriaeth ddefnyddiol o 66 am y bedwaredd wiced cyn i Root gael ei fowlio wrth geisio sgubo Roelof van der Merwe am y trydydd tro yn y belawd am 26.
Tarodd Jamie Overton goes Dan Douthwaite o flaen y wiced am chwech oddi ar belen ola’r dydd, a Cooke yn prysur redeg allan o bartneriaid.
Mae angen 330 yn rhagor ar Forgannwg, a phum wiced ar Wlad yr Haf, i ennill a chipio pwyntiau gwerthfawr ar ddechrau cystadleuaeth fer.