Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jonny Williams, wedi dweud ei fod yn falch iawn o un o’i “ffrindiau gorau”, Wilfried Zaha, am sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth.

Anfonwyd negeseuon a delweddau hiliol at Zaha ar y cyfryngau cymdeithasol y mis diwethaf. Arestiwyd bachgen 12 mlwydd oed mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn ddiweddarach.

Mae Zaha wedi dweud ei fod eisiau i safleoedd fel Twitter a Instagram wneud mwy i atal pobl rhag dioddef hiliaeth.

Mae Jonny Williams wedi adnabod asgellwr rhyngwladol y Côte d’Ivoire ers eu harddegau wrth iddynt ddod trwy academi Crystal Palace gyda’i gilydd.

Balchder

Soniodd Williams am ei falchder am y ffordd y mae un o’i “ffrindiau gorau” wedi ymateb:

“Rwy’n siŵr y bu adegau pan gafodd y math hwnnw o gamdriniaeth yn y gorffennol ac efallai ei fod wedi cadw’n dawel neu, o nabod Wilf, jyst brwsio popeth o’r neilltu.

“Mae’n cael amser caled pan mae e’n chwarae – achos dyna sut mae e… byddai pawb yn caru ei gael ar eu tîm.

“Dw i’n falch ohono fel ffrind. Dw i’n credu bod angen i bobl sylweddoli na ddylai pobl orfod anwybyddu’r negeseuon y maen nhw’n eu cael.

“Do’n i ddim yn gallu credu y gallai plentyn 12 oed ddweud rhywbeth felly wrth rywun. Mae’n wallgo’… a chwarae teg i Wilf am ddod ag e at sylw pawb.

“Dw i wedi chwarae gyda llawer o chwaraewyr du a galla’ i ddim dychmygu’r gamdriniaeth y gallai rhai o’r bechgyn fod wedi’i chael yn eu bywydau. Chwarae teg iddyn nhw am siarad yn gyhoeddus a chael pawb tu ôl iddyn nhw oherwydd mae’n amser anodd.”

Dyfodol ‘Joniesta’

Gadawodd Williams Crystal Palace yr haf diwethaf ar ôl bron i ddau ddegawd gyda’r clwb.

Symudodd i Charlton ac er gwaethaf tymor llwyddiannus yn bersonol (27 ymddangosiad) a arweiniodd ato’n dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol gyda Chymru, ni allai atal yr Addicks rhag mynd i lawr i League One.

Mae’n golygu bod gan Williams benderfyniad anodd i’w wneud am ei ddyfodol – a yw’n dewis 12 mis ychwanegol gyda Charlton neu’n edrych ar y cynigion y mae wedi’u cael gan glybiau’r Bencampwriaeth?