Mae gan Wlad yr Haf flaenorieth swmpus o 296 ar ddiwedd ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Morgannwg yn Nhlws Bob Willis yn Taunton.

Fe ddaw ar ôl i fatwyr chwalu ar ddechrau’r diwrnod, cyn i fatwyr y tîm cartref adeiladu partneriaeth swmpus.

Bydd Gwlad yr Haf yn dechrau’r trydydd diwrnod ar 131 am ddwy yn eu hail fatiad, gyda James Hildreth heb fod allan ar 45 a Tom Abell 44 heb fod allan.

Manylion

Ar ôl dechrau’r ail fore ar wyth heb golli wiced, wrth ymateb i 296 Gwlad yr Haf, cafodd Morgannwg awr a hanner trychinebus wrth gyrraedd 56 am chwech cyn i’r glaw ddod i’w hachub dros dro.

Collodd Morgannwg bump allan o’r chwe wiced yn ardal y slip a’r gyli yn sgil bowlio cywir Craig Overton a Josh Davey, a hwnnw hefyd wedi taro coes Nick Selman o flaen y wiced.

Fe ddechreuodd y gwymp yn y nawfed pelawd, pan gafodd Charlie Hemphrey ei ddal gan Tom Lammonby oddi ar fowlio Overton.

Roedden nhw’n 23 am ddwy wrth i Selman golli’i wiced, ac yn 33 am dair pan wyrodd Kiran Carlson y bêl i ddwylo Roelof van der Merwe oddi ar fowlio Overton, y wiced gyntaf o dair i gwympo am ddau rediad o fewn saith pelen.

Cyfunodd y brodyr Overton i waredu’r capten Chris Cooke, Jamie â’r daliad oddi ar fowlio Craig, cyn i Billy Root gael ei ddal yn y slip gan Jamie Overton oddi ar fowlio Davey.

Daeth pedwaredd wiced Overton toc cyn y glaw, pan gafodd Dan Douthwaite ei ddal gan Roelof van der Merwe, a’r sgôr yn 38 am chwech.

Dychwelon nhw i’r cae am gyfnod byr cyn yr egwyl, ac fe adeiladodd Kieran Bull a’i bartner Graham Wagg bartneriaeth addawol cyn i Wagg gael ei ddal yn y slip gan James Hildreth i roi pumed wiced i Overton, a’r sgôr yn 95 am saith.

Ar ôl osgoi gorfod canlyn ymlaen, collodd Morgannwg wythfed wiced ar 100, pan gafodd Marchant de Lange ei ddal gan Davey wrth yrru’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Jamie Overton.

Roedden nhw’n 106 am naw pan gafodd Kieran Bull ei daro ar ei goes gan Jack Brooks ond roedd hi’n ymddangos bod y bêl yn gwyro i lawr ochr y goes.

Ac fe ddaeth y batiad i ben i Forgannwg pan gafodd Ruaidhri Smith, ei ddal gan y wicedwr Steve Davies, wrth i Jamie Overton gipio’i ail wiced.

Ar ddiwedd y batiad, daeth cadarnhad na fydd Smith yn bowlio am weddill y gêm ar ôl anafu llinyn y gâr.

Yr ail fatiad

Roedd oedi yn sgil y glaw cyn i Wlad yr Haf ddechrau’r ail fatiad gyda mantais o 165, ond fe gollon nhw wiced o fewn dim o dro, wrth i Tom Lammonby gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg, a’r sgôr yn 26 am un.

Roedden nhw’n 38 am ddwy pan wnaeth Marchant de Lange ddod o hyd i ymyl bat Eddie Byrom, oedd wedi cynnig daliad syml i Cooke, ond adeiladodd James Hildreth a Tom Abell bartneriaeth gadarn i roi Morgannwg dan gryn bwysau yng ngêm gynta’r tymor.