Mae Jonny Williams yn ystyried ei ddyfodol yn y gobaith o fwynhau twrnament arall gyda thîm pêl-droed Cymru haf nesaf.

Fe fu’n aelod o garfan Charlton oedd wedi cwympo o’r Bencampwriaeth fis diwethaf, ac mae ganddo fe opsiwn o ymestyn ei gytundeb am dymor arall.

Ond mae sawl clwb arall yn y Bencampwriaeth yn awyddus i’w ddenu fe atyn nhw ar gyfer y tymor nesaf.

“Mae fy ngyrfa wedi bod i fyny ac i lawr, ac fe fu’n dipyn o daith,” meddai’r chwaraewr canol cae.

“Mae gen i flwyddyn o opsiwn a dw i’n asesu’r holl opsiynau gyda fy asiant bob dydd er mwyn gweld beth sydd orau i fi.

“Fy mhrif nod erbyn hyn yw rhoi fy hun yn y sefyllfa orau i wisgo crys Cymru’n aml oherwydd ro’n i weld gweld eisiau gwneud hynny pan gollais i sawl blwyddyn [yn sgil anafiadau].

“Roedd cael dychwelyd i chwarae o dan [Ryan] Giggs y llynedd yn anhygoel, a phenllanw gyrfa pob chwaraewr yw cael chwarae ar y lefel uchaf un.

“Dw i eisiau sicrhau fy mod i mewn sefyllfa dda i gael cydnabyddiaeth ar gyfer hynny a lle bynnag y bydd hynny, fe gawn ni weld.

“Dw i wedi mwynhau fy amser gyda Charlton yn fawr iawn, ac fe gawn ni weld beth sy’n digwydd yn y dyfodol agos.”

Ansicrwydd gyda Chymru

Fe wnaeth Jonny Williams ddychwelyd i garfan Cymru ym mis Medi am y tro cyntaf o dan Ryan Giggs, gan ymddangos yn y crys coch yn erbyn Azerbaijan – y tro cyntaf ers y golled yn erbyn Portiwgal yn Ewro 2016.

Roedd e yn y tîm unwaith eto ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Belarws, cyn cael ei alw i’r garfan ar gyfer y gemau rhagbrofol yn erbyn Slofacia a Croatia fis Hydref.

“Do’n i ddim yn disgwyl dechrau’r gemau enfawr hynny a dw i wedi chwarae mewn gemau mawr yng nghrys Cymru, ond roedden nhw’n bwysig iawn yn y pen draw wrth gael dwy gêm gyfartal yn erbyn dau dîm o’r radd flaenaf er mwyn cymhwyso,” meddai.

“O gael bod nôl, roedd yna adeg yn fy ngyrfa sawl blwyddyn yn ôl pan o’n i’n cwestiynu a fyddwn i fyth yn ôl yng nghrys Cymru ac roedd cael chwarae o dan Giggs, oedd yn un o’r mawrion mwyaf, yn eitha’ swreal.

Ond fe gafodd e lawdriniaeth ar ei ben-glin a cholli’r gemau yn erbyn Azerbaijan a Hwngari ym mis Tachwedd.

Mae Ewro 2020 wedi’i ohirio am flwyddyn yn sgil y coronafeirws, sy’n cynnig cyfle i Williams brofi ei ffitrwydd wrth chwarae i glwb ar lefel uchel.

“Dw i ddim yn hoffi peidio gwybod lle fydda i ond ar yr un pryd, dw i’n teimlo’n dda ac mae ‘nghorff i’n teimlo’n dda,” meddai.

“Ar ôl y profiad yn yr Ewros, dw i’n dal i gael pobol yn gofyn i fi sut brofiad oedd e.

“Mae’n un o’r pethau hynny rydych chi’n credu na fyddwch chi fyth yn cael blas arno fel pêl-droediwr, cael mynd i dwrnament mawr.

“Mae cael y cyfle i wneud hynny eto’n beth enfawr a’r prif beth yw ’mod i’n rhoi fy hun mewn sefyllfa dda i fynd, a phenderfyniad y staff fydd e wedyn.

“Dim ond fy mod i’n chwarae ac yn ffit, fydda i ddim yn difaru.”