Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi defnyddio technoleg sganio 3D i gynnal archwiliad “post-mortem” digidol ar dri anifail o’r hen Aifft – mwy na 2,000 o flynyddoedd ar ôl eu marwolaeth.

Mae ymchwilwyr wedi dadansoddi gweddillion cath, aderyn a neidr mewn “manylder anghyffredin, hyd at eu hesgyrn a’u dannedd lleiaf”.

Maen nhw’n dweud bod y canfyddiadau, a gafodd eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn, yn rhoi cipolwg ar y broses o fymïo anfeiliaid (mummification) yn ogystal â thaflu goleuni ar yr amodau y câi’r anifeiliaid eu cadw ynddyn nhw a’r rhesymau posib am eu marwolaethau, a hynny heb achosi niwed i’r sbesimenau.

Er bod ymchwiliadau blaenorol wedi nodi pa anifeiliaid oedden nhw, doedd dim llawer yn hysbys am yr hyn oedd y tu mewn i’r mwncïod.

Dywedodd awdur yr astudiaeth, Dr Carolyn Graves-Brown, o’r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe fod “ein canfyddiadau wedi datgelu mewnwelediadau newydd i fymïo anifeiliaid, crefydd a chydberthnasau pobl-anifeiliaid yn yr hen Aifft.”

Creodd yr hen Eifftiaid fymïod o fwncïod am wahanol resymau – rhai yn anifeiliaid anwes wedi’u claddu wrth ochr eu perchnogion, tra bod eraill wedi’u bwriadu fel cynigion bwyd i bobl yn yr ôl-fywyd.

Ond y rheswm mwyaf cyffredin oedd i weithredu fel offrymau cysegredig i’r duwiau.

Mae gwyddonwyr yn credu y gall fod hyd at 70,000,000 o anifeiliaid wedi’u mymïo wedi’u claddu dan ddaear ledled yr Aifft.

Y dechnoleg

Defnyddiodd yr ymchwilwyr, o dan arweiniad yr Athro Richard Johnston o Brifysgol Abertawe, ffurf ddatblygedig ar dechneg delweddu, a oedd yn cael ei hadnabod fel sganio micro-X, er mwyn cynhyrchu delweddau 3D o’r anifeiliaid.

Ar sail dadansoddiad o’r dannedd a’r sgerbwd, mae’r ymchwilwyr yn credu bod y gath fach wedi’i mymïo yn llai na phum mis oed.

Fe wnaethon nhw hefyd ganfod bylchau rhwng esgyrn y gwddf sydd, yn ôl y tîm, yn dangos y gall y gath fod wedi torri ei gwddf wrth farw neu yn ystod y broses fymïo i gadw’r pen yn syth.

Mae’n bosib fod y neidr – cobra Eifftaidd ifanc – wedi marw o ganlyniad i ddifrod i’r meingefn, oedd “yn gyson â dulliau cipio cynffonnau a chwipio”.

Canfu’r ymchwilwyr hefyd dystiolaeth o niwed i’r arennau yn y neidr, sy’n awgrymu efallai ei fod wedi’i amddifadu o ddŵr yn ystod ei fywyd.

Roedd y delweddu hefyd yn caniatáu i’r gwyddonwyr ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n credu yw resin caled yng ngheg yr ymlusgiad, all fod wedi cael ei ychwanegu yn ystod seremoni agor y geg – sef defod gladdu hynafol o’r Aifft.

Mae mesuriadau’r esgyrn a sganiau 3D o’r aderyn yn awgrymu ei fod yn debyg iawn i’r cudyll Ewrasiaidd.

Ymateb gwyddonwyr

“Drwy ddefnyddio micro-CT, gallwn gynnal post-mortem ar yr anifeiliaid hyn yn effeithiol, dros 2,000 mlynedd ar ôl iddyn nhw farw yn yr hen Aifft,” meddai’r Athro Richard Johnston.

“Gydag eglurder hyd at 100 gwaith yn uwch na sgan CT meddygol, roeddem yn gallu crynhoi tystiolaeth newydd o sut yr oeddent yn byw a marw, gan ddatgelu’r amodau y cawsant eu cadw ynddi, ac achosion posibl marwolaeth.

“A thrwy’r dechnoleg hon, rydyn ni newydd ymchwilio i dri anifail gwahanol iawn – cath, neidr ac aderyn.”

Dywed yr Athro Johnston y gallai ei waith gynnig templed ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, a allai ddatgelu mwy am fywydau’r anifeiliaid ar y pryd a hefyd am bobol y cyfnod a sut roedden nhw’n byw ac yn gweithio, yn ogystal â’u harferion crefyddol.”