Mae deiseb gan undeb NEU Cymru yn galw am chwarae teg i ddisgyblion yn eu arholiadau’r flwyddyn nesaf.

Daw hyn ar ôl cyhoeddiad na fyddai cymwysterau BTEC yn cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Awst 20).

Mae’r undeb wedi disgrifio’r sefyllfa eleni fel “profiad annifyr ac anhrefnus”, ac am weld y Llywodraeth yn cydweithio ag undebau llafur er mwyn lleihau cynnwys y cwricwlwm a datblygu system gadarn sy’n sicrhau bod pobol ifanc yng Nghymru yn cael eu gwobrwyo ac heb fod dan anfantais.

‘Cael hyn yn iawn y flwyddyn nesaf’

“Rydyn ni wedi lansio’r ddeiseb hon heddiw, gan fod ein haelodau yn wirioneddol angerddol bod angen i ni gael hyn yn iawn y flwyddyn nesaf,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru yr Undeb Addysg Cenedlaethol.

“Mae pobol ifanc wedi cael amser caled yn ystod cyfnod y clo.

“Rydym yn croesawu bod y Gweinidog Addysg wedi ymddiheuro am sefyllfa’r arholiadau eleni.

“Nawr mae angen i ni sicrhau ar frys nad yw’r sefyllfa canlyniadau eleni yn digwydd eto’r flwyddyn nesaf.”

Ar ôl beirniadaeth am y ffordd y cafodd graddau Safon Uwch a chymwysterau eraill eu cyfrifo’r wythnos ddiwethaf, penderfynodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y byddai graddau disgyblion yn cael eu gosod ar sail asesiad athrawon yn hytrach na’r algorithm gwreiddiol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gymryd camau brys i sicrhau bod myfyrwyr sydd yn sefyll arholiadau Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a TGAU yn 2021 yn cael eu trin yn deg ac nad ydyn nhw dan anfantais oherwydd eu cefndir,” meddai David Evans.

“Yng Nghymru, o ganlyniad i waith Uwch Gyfrannol mae gennym sylfaen gadarn i asesu gwaith myfyrwyr.

“Fodd bynnag, rhaid gwneud fyny am yr amser y mae myfyrwyr wedi’i golli yn yr ysgol neu’r coleg dros y misoedd diwethaf.

“Mae’n amlwg i’n haelodau fod angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i arholiadau’r flwyddyn nesaf. Rhaid i ni fod â hyder bod y graddau sy’n cael eu dyfarnu yn adlewyrchu llwyddiannau pobol ifanc.”

Cyhoeddodd Kirsty Williams ddydd Llun (Awst 17) y byddai’r Llywodraeth yn lansio adolygiad annibynnol o’r sefyllfa.