Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am osod graddau myfyrwyr ar sail asesiadau athrawon mewn ymateb i’r feirniadaeth am y ffordd cafodd graddau Lefel A a chymwysterau eraill eu cyfrifo wythnos ddiwethaf.

Mae Sally Holland hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gohirio canlyniadau TGAU oni bai eu bod nhw’n gallu sicrhau ‘ffydd y cyhoedd’. Mae disgwyl i’r canlyniadau TGAU gael eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 20).

Ond mae Downing Street wedi diystyru gohirio cyhoeddi canlyniadau TGAU yn sgil yr helynt. Serch hynny maen nhw’n ystyried gwneud tro pedol a fyddai’n gweld graddau’n cael eu seilio ar asesiadau athrawon ac nid fformiwla ddadleuol gafodd ei defnyddio ar gyfer graddau Lefel A.

“Cyfiawnder”

Mewn datganiad dywedodd Sally Holland ei bod yn amlwg bod y system sydd wedi cael ei roi yn ei le wedi “methu rhoi’r canlyniadau roedd rhai myfyrwyr yn haeddu.”

“Dw i ddim yn gweld unrhyw opsiwn arall ond newid i asesiadau athrawon er mwyn rhoi cyfiawnder i’r rheiny sy’n teimlo eu bod wedi cael cam,” meddai Sally Holland.

“Mae’r bobl ifanc yma yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i brofi eu hunain. Maent wedi bod ar siwrne mor anodd ers mis Mawrth a mae llawer yn teimlo bod cyfleoedd bywyd wedi newid yn llwyr oherwydd system oedd tu allan i’w rheolaeth nhw.

“Mae’r bobl ifanc yma wedi siarad allan yn gryf a dw i’n gwrando. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a phrifysgolion wneud hefyd.

“Dw i hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ystyried gohirio cyhoeddi canlyniadau TGAU yr wythnos yma oni bai eu bod nhw’n gwbl sicr eu bod nhw’n mynd i dderbyn ffydd y cyhoedd.”

Yng Ngogledd Iwerddon mae’r Gweinidog Addysg Peter Weir wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr TGAU yn derbyn y graddau ar sail amcangyfrifon athrawon.