Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi bydd graddau disgyblion yn cael eu gosod ar sail asesiad athrawon. Mae cyhoeddiad tebyg wedi cael ei wneud yn Lloegr hefyd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl beirniadaeth am y ffordd cafodd graddau Lefel A a chymwysterau eraill eu cyfrifo’r wythnos ddiwethaf.

O’r holl raddau Safon Uwch gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 13), roedd 42.2% yn is na’r hyn oedd wedi’i gyflwyno gan athrawon. Roedd 53.7% wedi derbyn yr un radd, a 4.1% wedi cael gradd uwch.

Bu hefyd protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddoe (Awst 16) ynghylch helynt canlyniadau arholiadau Lefel A.

Bydd y newid yn effeithio graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru.

“Rwy’n gwneud y penderfyniad hwn nawr cyn i’r canlyniadau gael eu rhyddhau’r wythnos yma, fel bod amser i’r gwaith angenrheidiol gael ei wneud”, meddai’r Gweinidog Addysg.

Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 20)

 

‘Darparu tegwch i ddisgyblion’

“Drwy weithio ar y cyd â Chymwysterau Cymru a CBAC, rydyn ni wedi ceisio sicrhau dull gweithredu sy’n deg ac sy’n cydbwyso gwahaniaethau yn y safonau a ddefnyddir mewn perthynas â barn athrawon mewn ysgolion,” meddai Kirsty Williams.

“O ystyried y penderfyniadau mewn mannau eraill, bellach mae’r cydbwysedd o ran tegwch yn seiliedig ar ddyfarnu graddau asesu canolfannau i fyfyrwyr, er gwaethaf cryfderau’r system yng Nghymru.

“O ran y graddau a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf, rwy wedi penderfynu y bydd yr holl ddyfarniadau yng Nghymru, ar gyfer blwyddyn eithriadol 2020, hefyd yn cael eu gwneud ar sail asesiad athrawon.

“I’r bobl ifanc hynny y mae ein system wedi cynhyrchu graddau uwch na’r rhai a ragwelwyd iddynt gan athrawon, bydd y graddau uwch yn sefyll.

“Nid yw cynnal safonau’n rhywbeth newydd ar gyfer 2020, mae’n rhan o’r ffordd yr ydyn ni’n dyfarnu cymwysterau bob blwyddyn yng Nghymru, a ledled y DU.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen inni wneud y penderfyniad anodd hwn er mwyn inni gael ffydd yn ein cymwysterau a bod yn deg i fyfyrwyr.

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg bydd hi, maes o law, yn cyhoeddi adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau yn dilyn canslo arholiadau eleni.

Ymateb Cymwysterau Cymru

Wrth ymateb, dywedodd Cymwysterau Cymru mewn datganiad:

“Gwyddom fod hwn yn gyfnod hynod anodd a gofidus i ddysgwyr, rhieni a’u hathrawon, ac mae yna lawer o gwestiynau nad oes gennym atebion iddynt ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio trwy’r manylion ac effaith y cyhoeddiad hwn a byddwn yn darparu diweddariadau cyn gynted ag y gallwn.

Gallwn gadarnhau y bydd unrhyw ddysgwr sydd wedi derbyn gradd UG, Safon Uwch neu Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch sy’n uwch na’u gradd asesu canolfan yn derbyn y radd uwch. Yn ogystal, mae’r polisi a roddwyd ar waith gennym ar gyfer ymgeiswyr preifat yn parhau i fod ar waith. Rydym yn gweithio i ddiweddaru’r broses apelio a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.”

Ymateb CBAC

Mewn ymateb, dywedodd CBAC ei bod nhw’n derbyn y newid polisi sydd wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg:

“Er y deallwn yr amgylchiadau wnaeth effeithio ar benderfyniad y Gweinidog, rydym yn hyderus o hyd yn y nodau a’r dull safoni presennol. Mae’r rhain yn cyfateb i ofynion Cymwysterau Cymru, ac wedi’u cadarnhau drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

“Bydd ein tîm ni’n rhoi’r newid polisi hwn ar waith yn awr wrth gyhoeddi’r graddau TGAU a Thystysgrif Her Sgiliau ddydd Iau.

“Rydym yn paratoi ar hyn o bryd i ailgyhoeddi’r graddau Safon Uwch, UG, a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch i ddysgwyr yn dilyn y newid polisi hwn.”