Mae protest ynghylch helynt canlyniadau arholiadau Safon Uwch yn cael ei chynnal ger y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 16).

Fe ddaw ar ôl i Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, gyhoeddi na fydd canlyniadau myfyrwyr yn cael eu gostwng yn is na’u canlyniadau Uwch Gyfrannol.

Ond dywed trefnwyr y brotest nad yw hyn yn rhoi “cyfiawnder” i fyfyrwyr, ac maen nhw’n galw am ganlyniadau “cyfannol”.

“Y system agosaf i’r hyn sydd ar gael yw graddau asesiadau athrawon sy’n adnabod eu myfyrwyr yn well nag y gallai unrhyw algorithm wneud,” meddai’r trefnwyr ar Facebook.

“Allwn ni ddim diffinio myfyrwyr yn ôl y ffactorau sy’n cefnogi’r system arholi bresennol, ac anwybyddu eraill.

“NID YSTADEGAU MO MYFYRWYR!”

Bydd pobol yn ymgynnull ar gyfer y digwyddiad fydd yn dechrau am 1 o’r gloch, ac mae pobol yn cael eu hannog i wisgo mwgwd a chadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Ymhlith y siaradwyr yn y brotest am 1 o’r gloch fydd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd sydd hefyd yn cynrychioli’r blaid, yn ogystal â chynrychiolwyr o fudiad Plaid Ifanc.