Mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban wedi ymddiheuro am ddewis bod yn llumanwr ar gyfer gêm bêl-droed yn hytrach na chynrychioli’r blaid mewn digwyddiad ar Ddiwrnod VJ.

Mae’r Diwrnod VJ blynyddol yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth i ben 75 mlynedd yn ôl.

Dywed Douglas Ross iddo “farnu’n anghywir” wrth wrthod y gwahoddiad i fynychu digwyddiad yn ei etholaeth ym Moray oedd yn cynnwys dwy funud o dawelwch, ac roedd cyn-filwyr yn bresennol.

Penderfynodd e gadw at ei ymrwymiad i fod ar yr ystlys ar gyfer gêm Kilmarnock yn erbyn St. Johnstone, ond mae e bellach wedi ymddiheuro ac wedi rhoi ei ffi, sydd oddeutu £445, i’r elusen Help for Heroes.