Mae’r plismon fu farw yn y dŵr ym Mhwllheli wedi cael ei enwi’n lleol.

Doedd Barry Davies ddim yn gweithio pan fu ynghlwm wrth ddigwyddiad yn ymwneud â cherbyd sgïo dŵr am oddeutu 4.30 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 16).

Bu farw yn y fan a’r lle.

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae Liz Saville Roberts, aelod seneddol Plaid Cymru, oedd wedi dod i’w adnabod pan wnaeth e ymateb i’w galwad ar ôl iddi dderbyn bygythiadau i’w bywyd.

Dywedodd ei fod yn “ŵr bonheddig o swyddog”.

Mae Heddlu’r Gogledd a Ffederasiwn Heddlu’r Gogledd hefyd wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud y byddan nhw’n cefnogi ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr.