Mae Llŷr Gruffydd wedi cyflwyno’i enw i arwain rhestr ranbarthol Plaid Cymru ar gyfer y gogledd yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Fe yw llefarydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig y blaid ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Wrth gyflwyno’i enw, mae’n dweud bod “Cymru’n wynebu heriau digynsail dros y blynyddoedd nesaf”, sef y coronafeirws, dirwasgiad economaidd, Brexit ac argyfwng newid hinsawdd.

Mae hynny, meddai, yn golygu bod angen “cynrychiolwyr cryf a phrofiadol ar Blaid Cymru a phobol gogledd Cymru yn ein Senedd”, ac yntau “wedi gweithio’n agos gyda chymunedau ym mhob rhan o’r gogledd ac wedi ymgyrchu ar faterion yn amrywio o iechyd i swyddi, addysg a’r amgylchedd”.

Mae’n dweud bod hynny’n ei roi e “mewn safle cryf i arwain y tîm o ymgeisyddion Plaid Cymru ar restr rhanbarthol Gogledd Cymru”.

Record sy’n “siarad drosto’i hun”

Dywed fod ganddo fe record sy’n “siarad drosto’i hun”.

“Ar iechyd yn unig llwyddais i roi stop ar y bwriad i orfodi nyrsus i weithio oriau ychwanegol yn ddi-dâl, ataliais gynlluniau i breifateiddio gwasanaethau dialysis, a datgelais sgandal “Marbella Man” lle roedd ymgynghorydd yn cael ei dalu £2,000 y dydd i roi cyngor i’r bwrdd iechyd o’i gartref yn Sbaen.

“Fel Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru ar yr Amgylchedd a Materion Gwledig roedd fy nghynnig llwyddiannus i’r Senedd ddatgan argyfwng hinsawdd yn golygu mai ein senedd ni oedd y cyntaf yn y byd i wneud hynny.

“Llynedd llwyddais i fod yr AS Plaid Cymru cyntaf mewn bron i ddegawd i lywio deddfwriaeth newydd drwy’r Senedd. Bydd y Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi gwell amddiffyniad a mynediad i gyfiawnder i bobl mwyaf bregus cymdeithas os ydynt yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd annerbyniol.”

‘Cryfhau llais y gogledd’

Dywed nad yw’n teimlo bod “gogledd Cymru yn derbyn ei siâr teg o fuddsoddiad a swyddi”.

Hynny, meddai, oedd wedi ei ysgogi i gadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ogledd Cymru sy’n “dod â holl ASau’r gogledd at ei gilydd i gryfhau ein llais ac i roi ffocws ar ystod o faterion rhanbarthol megis yr economi, addysg bellach ac uwch, cysylltiadau trafnidiaeth a dyfodol gwasanaethau iechyd”.

“Yn ystod fy amser fel aelod o’r Senedd dwi wedi adeiladu presenoldeb cryf ar draws gogledd Cymru,” meddai wedyn.

“Dwi wedi arwain a chefnogi llu o ymgyrchoedd i amddiffyn gwasanaethau lleol ymhob cwr o’r rhanbarth ac wedi cynorthwyo cannoedd o etholwyr gyda gwaith achos ar draws pob un o’r chwech awdurdod lleol.

“Dwi hefyd wedi gweithio’n agos gyda chynghorwyr, canghennau a phwyllgorau etholaeth Plaid Cymru ymhob un o’r naw etholaeth ar draws y gogledd.

“Byddai’n anrhydedd cael arwain rhestr ymgeisyddion rhanbarthol Plaid Cymru yn y gogledd wrth inni anelu i ffurfio llywodraeth Plaid Cymru yn etholiad nesaf y Senedd.”