Mae Heddlu’r De wedi dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll o ardal Abertawe.

Roedd teulu Paul Newcombe o’r Trallwn wedi bod yn chwilio amdano ers rhai diwrnodau.

Ond cafwyd hyd i’w gorff mewn ardal goediog yn Llansamlet am oddeutu 2.30 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 15).

Does dim amgylchiadau amheus, meddai’r heddlu, wrth iddyn nhw gadarnhau eu bod nhw wedi trosglwyddo’r achos i’r crwner.