Mae o leiaf 17 o bobol wedi cael eu saethu mewn tri lleoliad yn Cincinnati, yn ôl yr heddlu, sy’n dweud ei bod hi’n debygol fod rhai pobol wedi marw.

Fe ddigwyddodd yn oriau mân y bore.

Cafodd deg o bobol eu saethu yn ardal Over-the-Rhine, ac mae lle i gredu bod dau o bobol wedi marw yno.

Cafodd tri o bobol eu saethu yn ardal Walnut Hills, a chafodd pedwar eu saethu yn ardal Avondale, a’r gred yw fod dau o blismyn yn eu plith a’u bod nhw hefyd wedi marw.

Mae lle i gredu bod y tri digwyddiad o fewn awr a hanner i’w gilydd, ond mae’n ymddangos nad yw’r heddlu’n credu eu bod nhw’n gysylltiedig â’i gilydd.