Mae Adam Price wedi rhybuddio bod Plaid Cymru’n ystyried dwyn achos yn erbyn Llywodraeth Cymru a chorff Cymwysterau Cymru tros helynt y canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru.

Daw’r rhybudd ar ôl iddo annerch y dorf mewn protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd, lle dywedodd fod y blaid yn “ymchwilio i’r posibilrwydd” o her gyfreithiol, ochr yn ochr â her gyfreithiol y Good Law Project yn Lloegr.

Roedd mwy na 500 o bobol yn y brotest.

Mae wedi annog pobol i droi ato i drafod eu profiadau, gan ddweud bod “rhaid i ni ennill y frwydr”.

“Dyw Llywodraeth Cymru ddim eto wedi yngan yr ymddiheuriad hwnnw, felly gadewch i fi wneud drostyn nhw – gydag ymddiheuriad syml i bobol Cymru am y system, y system wleidyddol a’r system addysg, oedd wedi eich siomi chi,” meddai yn ei anerchiad.

“Mae rhoi pethau’n iawn pan ydych chi’n cael pethau’n anghywir yn dechrau gyda gonestrwydd.”

‘Llywodraeth Cymru wedi methu’

Wrth wneud cymhariaeth â’r drefn addysg, mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru “wedi methu” ac “wedi methu’n llwyr”.

“Ac mae canlyniadau’r methiant hwnnw wedi’i deimlo fwyaf, wrth gwrs, gan y bobol ifanc hynny y mae eu dewis o brifysgol a’u dyfodol wedi cael eu dwyn oddi arnyn nhw heb fod bai arnyn nhw eu hunain,” meddai.

Mae’n dweud bod myfyrwyr, rhieni ac athrawon wedi colli ffydd yn y Llywodraeth, gan awgrymu y gallai pleidlais o ddiffyg hyder gael ei chyflwyno.

“Os yw Llywodraeth Cymru’n parhau i ddweud nad oes ganddi hyder mewn athrawon, yna fydd gan athrawon ddim hyder ynddyn nhw, a fydd dim gyda ni chwaith.

“Os oedd cynnig o ddiffyg hyder yn ddigon da i’r Blaid Lafur yn yr Alban, yna efallai ei fod yn iawn i ni yng Nghymru hefyd.”

Beirniadu’r Llywodraeth

Yn ei anerchiad, tynnodd Adam Price sylw at y bwlch cyrhaeddiad yn y byd addysg yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod cau’r bwlch cyrhaeddiad addysgiadol yn nod polisi hanfodol,” meddai.

“Ond eto, roeddech chi’n fwy tebygol o gael eich israddio ddydd Iau os oeddech chi’n derbyn prydau bwyd am ddim yn yr ysgol.

“A oedd hi erioed yn iawn seiliio asesiad cyfredol ar berfformiad yn y gorffennol nad yw’n gadael lle i fyfyriwr wneud cynnydd cyflym?

“Os oedd y system yn gadarn, pam oedd yr Ysgrifennydd Addysg yn teimlo rheidrwydd, y noson gynt, i gyhoeddi rhwyd amddiffyn fondigrybwyll ar gyfer Safon Uwch, sydd ynddi’i hun yn cyflwyno haen ychwanegol o annhegwch oherwydd nad yw’n cydnabod y cynnydd mae myfyrwyr wedi’i wneud ym Mlwyddyn 13.

“Pam fod cyfres o lacio ar y broses apeliadau os nad oedd Llywodraeth Cymru’n disgwyl miloedd o apeliadau oherwydd nad oes modd amddiffyn y system, yn syml iawn?

“Mae’r deilliannau afresymegol, annychmygadwy, annirnad yn rhy niferus, yn rhy debyg, yn rhy ddifrifol i fod yn eithriadau.

“Pan fo ysgolion cyfan, adrannau cyfan yn cael eu marcio i lawr, heb unrhyw resymeg, mae hyn yn amlwg yn mynd y tu hwnt i wallau unigol.

“Bydd angen ymchwiliad trylwyr arnom ynghylch pam fod hyn wedi digwydd.

“Ac mae’n dda cael gwybod y bydd Pwyllgor Addysg y Senedd yn dechrau ar y gwaith hwnnw ddydd Mawrth.”

Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb ar drothwy cyhoeddi’r canlyniadau TGAU ddydd Iau (Awst 20).

“Mae cenedl sy’n methu o ran ei phobol ifanc yn methu o ran ei dyfodol ei hun,” meddai wrth ddod â’r anerchiad i ben.

“Gadewch i ni ennill hyn er eich mwyn chi ac er mwyn gwlad well y gallwn fod.”