Mae’r cwmni bwyd Almaenig Knorr wedi penderfynu ail-enwi saws poblogaidd oherwydd yr awgrym o hiliaeth yn ei enw.
Bydd saws Zigeuner – neu saws y Sipsiwn – yn cael ei alw’n ‘Paprika Sauce Hungarian Style’ o fewn rhai wythnosau, yn ôl y papur newydd Bild am Sonntag.
“Gan fod modd dehongli ’saws y Sipsiwn’ mewn modd negyddol, rydym wedi penderfynu rhoi enw newydd ar ein saws Knorr,” meddai’r cwmni Unilever sy’n berchen ar gynnyrch Knorr.
Fe fu grwpiau hawliu sifil yn galw am ail-enwi’r cynnyrch ers blynyddoedd, ond mae’r cwmni wedi gwrthod y galwadau.
Ond fe ddaw’r penderfyniad yn sgil y trafodaethau byd-eang am enwau sydd bellach yn annerbyniol oherwydd eu cysylltiadau â hiliaeth a chaethwasiaeth.
Zigeuner yw’r gair Almaeneg ar griw o Sipsiwn Rhufeinig a Sinti sydd wedi byw mewn sawl gwlad Ewropeaidd ers canrifoedd, ac mae’r enw ar y saws wedi’i ddefnyddio yn yr Almaen ers canrif a mwy ac yn cael ei weini mewn bwytai ar hyd a lled y wlad.
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r penderfyniad i newid yr enw.