Mae Michel Aoun, arlywydd Libanus, yn dweud bod yr ymchwiliad i’r ffrwydrad yn Beirut yn un “cymhleth iawn” ac na fydd yn dod i ben yn gyflym.

Mae’n wynebu galwadau i gamu o’r neilltu yn sgil ymateb y llywodraeth i ddigwyddiadau arweiniodd at y ffrwydrad, lle cafodd ffrwydron eu stori.

Aeth bron i 3,000 tunnell o ffrwydron ar dân ar Awst 4, ond dydy’r union achos ddim yn glir ar hyn o bryd.

Cafodd 178 o bobol eu lladd, a mwy na 6,000 eu hanafu, ac mae o leiaf 30 o bobol yn dal ar goll.

Mae dogfennau swyddogol yn dangos bod y llywodraeth yn ymwybodol o berygl y ffrwydron ond nad oedden nhw wedi ymateb.

Mae tair rhan i’r ymchwiliad, sef yr amgylchiadau arweiniodd at storio’r ffrwydron, o ble ddaethon nhw a phwy oedd yn gyfrifol am ddiogelu’r storfa.

Mae’r FBI a’r awdurdodau Ffrengig yn cynorthwyo’r ymchwiliad, ac mae’r arlywydd yn dweud nad oes modd wfftio’r posibilrwydd fod ymosodiad gan luoedd tramor wedi arwain at y tân.

Mae Israel wedi gwadu unrhyw ran yn y tân.

Llywodraeth y wlad

Yn sgil yr helynt, fe wnaeth Llywodraeth Libanus gamu o’r neilltu ar Awst 10.

Maen nhw’n dal wrth y llyw am y tro gan na fu trafodaethau eto ynghylch ffurfio llywodraeth newydd dan arweiniad yr wrthblaid.

Dywed yr arlywydd ei fod e’n deall rhwystredigaeth pobol, ond mae’n gwrthod y galwadau i gamu o’r neilltu gan y byddai’n arwain at sefyllfa lle na fydd neb wrth y llyw am gyfnod.

Mae hefyd yn dweud nad yw’n adeg gyfleus i gynnal etholiadau arlywyddol.