Mae criw achub mynydd Dyffryn Ogwen yn dweud iddyn nhw orfod achub naw o ddynion oddi ar fynydd Tryfan yn dilyn digwyddiad y gellid fod wedi’i osgoi.

Fe wnaeth y criw adael Llundain am 9 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Awst 15) ac anelu am y gogledd “heb gyfarpar, heb brofiad a heb wybodaeth am y llwybr”, meddai’r criw.

Llwyddodd dau o’r dynion i gyrraedd y copa, tra bod tri wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi a’i throi hi am y gwaelod.

Fe wnaeth y pedwar arall barhau â’u taith cyn cael cyngor gan y gweddill i geisio dod yn ôl, ond aethon nhw ar goll ar y llwybr.

Cafodd un dyn bwl o banig a doedd e ddim yn gallu symud o ganlyniad i flinder difrifol.

Cafodd y criw i gyd eu hachub ar ôl i hofrennydd orfod teithio o Sain Tathan ar ôl cael ei dargyfeirio wrth ymateb i alwad arall ar yr Wyddfa.

Dywedodd y dyn oedd wedi mynd i banig fod hynny wedi digwydd sawl gwaith yn y gorffennol.