Mae un o hoelion wyth y Sîn Roc Gymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed heddiw.

Yn ystod gyrfa sy’n ymestyn yn ôl i’r 1960au, mae Geraint Jarman wedi rhyddhau 18 o albyms ac yn adnabyddus am glasuron megis ‘Gwesty Cymru’, ‘Ethiopia Newydd’, ‘Methu dal y pwysa’,’Rhywbeth bach’ a ‘Tracsuit Gwyrdd’.

Ar drothwy ei ben-blwydd, bu’r canwr yn egluro wrth gylchgrawn Golwg ei fod wedi bwriadu cael parti mawr – cyn i’r coronafeirws darfu.

“Yn wreiddiol, roeddwn i’n mynd i gael parti mawr – a dw i erioed wedi bod yn foi am bartis,” meddai.

“Ond ddechrau’r flwyddyn, roeddwn i’n benderfynol o heirio’r lle a chael PA a miwsig a bwyd, a chael jolly go-iawn.

“Ond daeth y Covid-19, felly aelodau o’r teulu a cwpwl o ffrindiau yn yr ardd fydd hi. Ond dyna fo, efallai blwyddyn nesaf…”

Albym newydd

Yn ei gyfweliad gyda chylchgrawn Golwg, mae Geraint Jarman yn trafod ei albym newydd, Cwantwm Dub, sy’n gasgliad cyfan o draciau dub reggae ac ar gael i’w phrynu ddydd Gwener yma, Awst 21.

Hefyd mae yn datgelu fod yr awen wedi llifo yn y cyfnod clo, a’i fod wedi sgrifennu digon o ganeuon newydd ar gyfer albym o ganeuon roc sy’n debycach i’w stwff cynnar.

“Yn y cyfnod yma dan glo, dw i wedi sgrifennu caneuon yr albym nesaf bron i gyd,” meddai Geraint Jarman.

“Dw i’n gobeithio y bydd o’n double album ac y bydd o’n debycach i bethau fel [yr albyms] Hen Wlad Fy Nhadau [yn 1978] a Gwesty Cymru [yn 1979].”

Y cyfweliad llawn gyda Geraint Jarman yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg ac yn y fersiwn ddigidol ar Golwg+