Mae gan Godfather y Sîn Roc Gymraeg albwm newydd allan, ac mae wedi sgrifennu digon o ganeuon yn y cyfnod clo ar gyfer albwm arall…
Yr wythnos hon mae Geraint Jarman yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed trwy ryddhau albwm rhif 18!
Ac mae’r canwr creadigol yn datgelu ei fod wedi sgrifennu digon o ganeuon roc newydd yn y cyfnod clo, ar gyfer llenwi albwm ddwbl.
Ond am rŵan caiff ei ffans fodloni ar Cwantwm Dub, ei albwm gyntaf ers Cariad Cwantwm ddwy flynedd yn ôl.
Yr albwm honno oedd casgliad cyntaf cyflawn Geraint Jarman o ganeuon reggae.
A Cwantwm Dub yw casgliad cynta’r canwr o Gaerdydd o ganeuon sydd yn ddim byd ond traciau dub, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn fersiynau newydd o’r rhai reggae gafwyd ar Cariad Cwantwm.
Yn fras, fersiwn wahanol o gân reggae yw cân dub, gyda llai o ganu, mwy o bwyslais ar y rhythm, a defnyddio peiriant i greu eco hypnotig.
“Gyda chân reggae, mae’r pwyslais ar y llais, ac wedyn mae’r offerynnau i gyd yn eistedd o amgylch y llais,” eglura Geraint Jarman.
“Be’ sy’n digwydd efo dub ydy bod y traciau yn cael eu hailgymysgu, ac mae’r pwyslais wedyn yn troi i’r drymiau a’r bass – y nhw sy’n dod yn gyntaf.
“Ac mae’r offerynnau eraill wedyn yn plethu o gwmpas y dryms a’r bass ac yn creu haenau o synau gwahanol, sy’n dod mewn ac allan.
“Ac efo help tipyn bach o reverb a delay, rydych yn creu trac offerynnol sydd yn hollol wahanol i’r gân reggae wreiddiol.”
Er mai Cwantwm Dub yw albwm gyntaf Geraint Jarman o ganeuon dub, nid dyma’r tro cyntaf i ni glywed y math yma o ganeuon ganddo.
“Mae dub wedi bod yn rhan o fy miwsig i ers [yr albwm] Gwesty Cymru [yn 1979],” eglura.
“Roedd flip-side y sengl ‘Gwesty Cymru’, ‘Mynd i weld y frân’, roedd honna yn dub trac.
“Ac roedd yna ddipyn o dub ar yr holl albwms yna – Gwesty Cymru a Fflamau’r Ddraig [yn 1980].
“Ac ar yr albym Sub Not Used [yn 1998], wnes i roi tri neu bedwar o draciau dub ar honna…
“Ond doeddwn i erioed wedi meddwl y baswn i’n cael y cyfle [i ryddhau albwm gyfan o ganeuon dub] oherwydd mae o’n gerddoriaeth unigryw iawn, ac mae ganddo ei ddilynwyr.
“Ond tydi lot fawr o bobol ddim yn hoff iawn, neu ddim yn deall pwrpas y dub.
“Ond ar ôl cyhoeddi Cariad Cwantwm, roedd o’n siawns perffaith wedyn i wneud dub ohoni.”
Un o gynhyrchwyr amlyca’ Caerdydd, Krissie Jenkins, gafodd y gwaith o ailgymysgu’r mwyafrif o’r caneuon sydd ar Cawntwm Dub.
Mae o a Geraint Jarman yn hen lawiau.
Krissie Jenkins oedd yn DJ-io ym mharti lawnsio Cariad Cwantwm ym Mhrifwyl Caerdydd ddwy flynedd yn ôl.
“Rydw i’n ‘nabod Krissie ers pan oedd o’n hogyn, roedd o’n arfer dod lawr i [glwb] Casablanca [ym Mae Caerdydd] i weld ni’n chwarae…
“Mae o wedi bod yn beiriannydd a chynhyrchydd yma yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, yn gweithio gyda lot fawr o artistiaid Cymraeg.
“Pobol fel Cate le Bon a The Peth, grŵp Rhys [Ifans], a gwneud lot gyda’r Super Furry Animals.
“A be’ ddigwyddodd oedd, ddaru Krissie glywed Cariad Cwantwm a chysylltu gydag Emyr Glyn Williams yn [Recordiau] Ankst, a gofyn os alla fo wneud remixes.
“Felly fe wnaeth o tua chwech o’r rheiny, a ddaru Emyr eu cyhoeddi nhw fel cyfres o senglau ac EPs ar y We.
“Ac roeddwn i’n licio ei waith o gymaint, ddaru ni ofyn iddo fo i wneud digon o draciau i wneud albym…
“I fi, mae Krissie Jenkins yn berffaith ar gyfer yr albym hon. Mae o’n dod o Butetown ac yn really deall reggae.”
Mae’r cynhrychydd Frank Naughton wedi ailgymysgu dau o draciau’r albwm newydd – ‘Strangetown Dub’ a ‘Byrger Dub’.
Felly er mai caneuon Geraint Jarman sydd ar Cwantwm Dub, tydi o heb fod ynghlwm â’r gwaith o’u hail-greu nhw.
Ar drac cynta’r albwm, ‘Bywyd Dub’, mae Krissie Jenkins wedi ailgymysgu’r gân reggae ‘O Fywyd Prin’.
Mae’r fersiwn dub yn cychwyn gyda chytgan y gân reggae wreiddiol, gyda reverb wedi ei roi ar leisiau Geraint Jarman a’i ferched Lisa, Hannah a Mared i greu effaith eco trawiadol.
Mae yn gychwyn dramatig sy’n dal eich sylw yn syth.
“O ie, mae e’n ffantastig,” cytuna Geraint Jarman.
“Mae’r dub yna yn arbennig gan Krissie… be sy’n syndod ydy’r synau mae Krissie yn eu cael.
“Ar y dryms, er enghraifft, mae’r high hat mor crisp. Sŵn ffantastig.”
Yn ogystal â chwarae o gwmpas gyda’r gân reggae wreiddiol, mae Krissie Jenkins yn rhoi samplau ychwanegol ar y caneuon dub.
Cân arall sy’n cychwyn gyda llais, cyn troi yn offerynnol, yw ‘Gwrthryfel Dub’, sy’n hypnotig.
“Dyna’r bwriad,” meddai Geraint Jarman, “achos mae o’n fwy ysbrydol, mewn ffordd. Mae’r pwyslais yn tynnu chi i ffwrdd o bethau, ac mae yn anhygoel weithiau mai yr un gân ydy hi.”
Cân hyfryd yw ‘Addewidion Dub’ – mae gwrando arni yn teimlo fel gorwedd ar draeth euraidd yn y Caribî.
“Mae’r bass ar honna yn ffantastig,” meddai Geraint Jarman.
“Mae’r ffordd mae Krissie wedi dewis feib ar gyfer pob trac yn dangos ochr arall i’r miwsig, sydd ddim ar y fersiwn [reggae] wreiddiol.”
Degawd gynhyrchiol
Mae Geraint Jarman yn rhan o’r Sîn Roc Gymraeg ers diwedd y 1960au, ac wedi rhyddhau albwms yn gyson yn y 1970au, y 1980au a’r 1990au.
Ac os oedd degawd gynta’r ganrif hon yn dawelach, mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn ffrwythlon o ran creu caneuon.
Cafwyd pump albwm yn cychwyn gyda Brecwast Astronot yn 2011, gyda Dwyn yr Hogyn Nôl yn 2014, Tawel yw’r Tymor yn 2016 a Cariad Cwantwm ddwy flynedd yn ôl.
Cael ei iechyd yn ôl wnaeth sbarduno creadigrwydd Geraint Jarman.
“Roeddwn i wedi bod yn byw gyda phoen cefn am flynyddoedd, ac roedd o’n rhywbeth negyddol iawn,” eglura’r canwr.
“A ges i lawdriniaeth ar fy asgwrn cefn, ac ar ôl hynny roedd o’n gymaint o ryddhad, wnes i ddechrau dod yn normal eto.
“Ac yn raddol bach dechreuodd yr awen ddod nôl, a sgrifennu caneuon Brecwast Astronot.
“Ac o’r cyfnod yna ddechreuodd pob dim, achos unwaith roedd y momentwm gen i, roedd y peth yn parhau.
“Wnaethon ni ddechrau chwarae gigs eto yn 2012, a’r flwyddyn ganlynol wnes i wneud Dwyn yr Hogyn Nôl.
“Ac i fi, roedd honna yn albym llawn creadigrwydd. Roedd y broses o sgrifennu caneuon wedi dod nôl a setlo yndda fi.
“Roeddwn i yn teimlo ei fod o’n ddadeni bach, bod yr ysbryd oedd ar goll wedi dod yn ôl ata i fi.
“Felly trwy lwc a momentwm, rydan ni wedi cael gyrfa eitha’ difyr am y ddeng mlynedd diwethaf. A chyfle i wneud gwahanol fath o fiwsig hefyd.
“Ac efallai am fy mod i’n llawer hŷn rŵan, mae yna fodd i fi gymryd y risgs yma – gwneud albym acwstig; gwneud albym reggae.
“Mewn ffordd, does gen i ddim byd i’w golli…”
Ac mae’r awen cyn gryfed ag erioed.
“Yn y cyfnod yma dan glo, dw i wedi sgrifennu caneuon yr albwm nesaf bron i gyd.
“Dw i’n gobeithio y bydd o’n double album ac y bydd o’n debycach i bethau fel Hen Wlad Fy Nhadau [1978] a Gwesty Cymru…
“Dw i wedi bod yn sgrifennu lot o ganeuon roc.
“Felly, o ran hynny, mae’r locdown yma wedi bod yn greadigol.”
Hefyd yn y cyfnod clo mae’r canwr wedi bod yn paratoi 60 o’i gerddi ar gyfer cyfrol gyntaf o’i farddoniaeth yn Saesneg.
Yn ogystal â bod yn gerddor, mae Geraint Jarman yn fardd sydd â’i gerddi Cymraeg wedi eu cyhoeddi yn achlysurol mewn cyfrolau ers 1970.
Bydd ei gasgliad diweddaraf yn “gerddi oedd gen i yn Saesneg, a hefyd rydw i wedi cyfieithu rhai o fy ngherddi Cymraeg”.
“Mae lot o’r cerddi o pan oeddwn i yn 15, 16 oed. Lot o gerddi ifanc.
“Ac mae o’n mynd trwy gyfnodau hyd at heddiw.”
Dathlu’r deg a thrigain
Roedd Geraint Jarman yn 70 oed ddydd Llun.
“Dipyn bach o sioc,” meddai ar drothwy ei ben-blwydd, “a’r un hen ystrydebau – where did all the time go?
“Yn wreiddiol, roeddwn i’n mynd i gael parti mawr – a dw i erioed wedi bod yn foi am bartis.
“Ond ddechrau’r flwyddyn, roeddwn i’n benderfynol o heirio’r lle a chael PA a miwsig a bwyd, a chael jolly go-iawn.
“Ond daeth y Covid-19, felly aelodau o’r teulu a cwpwl o ffrindiau yn yr ardd fydd hi. Ond dyna fo, efallai blwyddyn nesaf…”
A beth oedd am fod ar y stereo yn y parti?
“Wel, dw i wedi prynu albym newydd Bob Dylan, Rough and Roudy Ways.
“A dw i wedi prynu un newydd Neil Young, Homegrown.
“Ond, ella bydda i’n chwarae dipyn bach o’r albwm dub yma!”