Mae’r Gymraes Kiri Pritchard-McLean ymhlith nifer o fenywod yn y byd comedi sy’n galw am brotocol i’w gwarchod rhag aflonyddu rhywiol yn y diwydiant, yn ôl Sky News.
Dywed y ddigrifwraig ei bod hi’n gobeithio mai dyma fydd “eiliad #MeToo” y byd comedi ar ôl “aflonyddu neu fychanu” menywod ers cyhyd.
Mae’n dweud bod pobol bellach yn “sylweddoli na ddylai hyn fod y norm”, ac yn galw am raglenni mentora i warchod menywod ifanc sy’n mentro i’r byd comedi.
Yn ôl Kiri Pritchard-McLean, dylai profiadau menywod yn y diwydiant fod union yr un fath â phrofiadau dynion.
“Mae’n ddigon anodd fel mae hi, rydych chi’n gwneud blynyddoedd o deithio’n ddi-dâl dros y wlad yn mireinio’ch crefft – mae hynny’n ddigon anodd heb orfod ymdopi efo’r labyrinth ychwanegol yma sydd efo ni, am wn i, fel lleiafrifoedd o fewn comedi.
“Dyna fy mreuddwyd, fod pawb yn cael yr un cyfleoedd i lwyddo ac i fod yn wych.”