Yn dilyn llwyddiant ei sengl gyntaf, mae Malan Fôn Jones, neu Malan (ei henw artist) yn barod i ryddhau cân newydd, ‘Greed’, ddydd Gwener (Awst 14).

Cantores o Gaernarfon yw Malan sy’n cael ei “dylanwadu gan gerddoriaeth jazz a pop.”

Mae ei sengl gyntaf, ‘Busy Bee’, gafodd ei ryddhau ar Fehefin 19, wedi cael ei ffrydio 9,000 o weithiau a’i  gynnwys ar restr chwarae New Music Friday, sy’n cyflwyno detholiad o ganeuon Prydeinig newydd pob dydd Gwener.

“Roedd y playlist yn help mawr ac mae o wedi rhoi hyder imi wrth symud ymlaen oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod sut ymateb fyddai’r gân yn ei gael,” meddai Malan wrth golwg360.

“Dw i’n gobeithio bydd y gân newydd yn gwneud cystal, er dw i ddim yn gwybod sut eith pethau chwaith.”

Agored i ganu yn Saesneg a Chymraeg

Er mai yn y Saesneg mae Malan yn canu yn ei dwy sengl gyntaf, dywed ei bod hi’n agored i ganu yn y Gymraeg hefyd.

“Dw i bendant yn bwriadu gwneud cerddoriaeth Cymraeg hefyd, jest fod y ddwy gyntaf ’ma’n digwydd bod yn Saesneg.

“Mae fy ngherddoriaeth i wedi newid o’r math o beth roeddwn i’n gwneud o’r blaen, dw i’n gwneud mwy o’r math o sŵn dw i’n mwynhau wan.”

Cydweithio gyda’i chariad

Bu Malan ar waith celf y sengl ‘Greed’ gyda’i phartner, Dion Wyn Jones, sy’n brif leisydd ac yn chwarae gitâr i’r band Alffa.

Gwaith celf gan Dion Wyn Jones

Mae ef hefyd yn gwybod peth neu ddau am ffrydio, a cafodd y gân ‘Gwenwyn’ gan Alffa ei ffrydio dros ddwy filiwn o weithiau.

“Mae Dion wedi dechrau dylunio pethau iddo fo’i hun ac felly mi ddaru ni drio cwpwl o bethau allan a dw i’n gallu dweud wrtho fo be’ dw i’n licio,” meddai Malan.

“Roedd o yn y stiwdio pryd fues i’n recordio ‘Greed’ oedd yn neis.”