Mae Theatr Clwyd a Sefydliad Glowyr y Coed Duon ymhlith yr adeiladau yng Nghymru fydd yn troi’n goch heddiw (dydd Mawrth, Awst 11) i dynnu sylw at y swyddi sydd yn y fantol yn y diwydiant digwyddiadau byw.

Hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae Stadiwm Principality, Chapter ac Arena Motorpoint yng Nghaerdydd, yn ogystal â Theatr y Gyngres yng Nghwmbrân.

Bydd y goleuadau coch yn symbol o’r perygl mae’r diwydiant yn ei wynebu yn sgil y coronafeirws, gyda’r posibilrwydd y gallai miliwn o swyddi gael eu colli.

O blith y rhain, gweithwyr llawrydd yn gweithio ar eu liwt eu hunain yw 72% ohonyn nhw.

Dywed arbenigwyr fod canslo’r Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi gwaethygu’r sefyllfa, ac mae disgwyl i 70% o fusnesau’r diwydiant redeg allan o arian wrth gefn dros y ddeufis nesaf.

Fel rhan o’r digwyddiad heddiw, sy’n cael ei gydlynu gan undeb PLASA, fe fydd mwy na 17 o gyrff o fewn y diwydiant yn dod ynghyd.

Penllanw’r digwyddiad trwy wledydd Prydain fydd taith cwch ar hyd y South Bank yn Llundain, a fydd yn cludo cynrychiolwyr o’r diwydiant a newyddiadurwyr ar hyd afon Tafwys i weld y ddinas yn troi’n goch fesul dipyn.

Daw’r digwyddiad diweddaraf fis ar ôl i adeiladau yng Nghymru, gan gynnwys Neuadd Brangwyn a Theatr y Grand yn Abertawe a Theatr Ffwrnes yn Llanelli droi’n goch i gefnogi’r celfyddydau.