Fe fu’n rhaid tywys yr Arlywydd Donald Trump o’r Tŷ Gwyn am rai munudau neithiwr (nos Lun, Awst 10) yn dilyn achos o saethu yn yr ardal.

Dychwelodd rai munudau’n ddiweddarach gan ddweud bod y sefyllfa “dan reolaeth”.

Roedd yn rhoi diweddariad coronafeirws i’r wasg ar y pryd, ac fe ddywedodd fod rhywun wedi cael ei saethu a’i gludo i’r ysbyty.

Eglurodd mai swyddogion diogelwch oedd wedi saethu rhywun, gan fod lle i gredu’i fod e wedi’i arfogi.

Bu’n rhaid cau’r Tŷ Gwyn o’r tu fewn yn dilyn y digwyddiad.

Cefndir

Mae lle i gredu bod y digwyddiad wedi dechrau pan aeth dyn 51 oed at swyddog diogelwch a dweud bod ganddo fe arf.

Rhedodd y dyn mewn modd ymosodol at y swyddog wedyn, a thynnu rhywbeth o’i ddillad cyn mynd i’w gwrcwd.

Wrth i hynny ddigwydd, fe wnaeth y swyddog diogelwch ei saethu unwaith.

Bu’n rhaid cludo’r swyddog i’r ysbyty hefyd.

Tra bo’r awdurdodau’n dweud bod y dyn arfog wedi cael anafiadau difrifol, does dim sôn ar hyn o bryd am gyflwr y swyddog diogelwch.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r arlywydd wedi canmol yr awdurdodau.