Mae’r Samariaid yng Nghymru wedi cyhoeddi ffigurau sy’n dangos fod y pandemig coronafeirws wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl 43% o ddynion yng Nghymru.

Yn ôl eu harolwg, mae dros hanner (54%) y dynion yng Nghymru hefyd yn poeni pa effaith y bydd y coronafeirws yn ei chael ar eu sefyllfa ariannol.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r elusen lansio ymgyrch newydd ar y cyd â’r diwydiant rheilffyrdd sy’n annog pobol i rannu eu straeon.

Nod ymgyrch ‘Real People, Real Stories’ yw cyrraedd dynion sy’n ei chael yn anodd ymdopi.

Effaith y pandemig

Eglurodd Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru fod yr ansicrwydd sydd yn deillio o’r pandemig “yn debygol o gael effaith barhaol ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru.”

“Mae’r pandemig wedi ynysu llawer o bobol oddi wrth ffrindiau ac anwyliaid, mae pobol yn poeni am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu teuluoedd, mae hefyd pryder gan nifer am eu swyddi a’u hincwm,” meddai.

“Rydym yn gwybod bod cyfradd hunanladdiad dynion bron dair gwaith yn uwch na chyfradd y menywod yng Nghymru.

“Dynion o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yw un o’r grwpiau risg uchaf ar gyfer hunanladdiad.

“Mae’n debygol felly y bydd y cyfyngiadau wedi gwaethygu problemau i’r dynion hyn, trwy beri iddyn nhw fynd yn ynysig, wedi’u datgysylltu ac yn poeni am broblemau ariannol.

“Ni fu erioed mor bwysig cysylltu ag eraill a chael yr amser a’r lle i siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.

“Rydyn ni’n gwybod fod rhannu straeon am adferiad yn annog dynion i ddod o hyd i gymorth, felly rydyn ni’n gobeithio y gall ein hymgyrch helpu dynion eraill i weld eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth a gwybod bod y Samariaid yno bob amser pan maen nhw eisiau siarad.”

Mae gwasanaeth llinell gymorth Samaritans yng Nghymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.