Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio cipio grymoedd sydd wedi’u datganoli i Gymru fel rhan o ymgynghoriad ar Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Yn eu hymateb, fe wnaeth y blaid feirniadu’r ddeddfwriaeth fel dull o ymyrryd mewn materion sydd wedi’u datganoli i Gymru, a chodi pryderon am y broses ymgynghori.
Cafodd Papur Gwyn ei gyflwyno yn San Steffan fis diwethaf.
Yn ôl y papur, mater i San Steffan fyddai diffinio sut fyddai’r gwledydd datganoledig yn cyfathrebu â Llywodraeth Prydain ar ôl Brexit.
Ac mae Plaid Cymru’n eu cyhuddo o “gipio grym”, gan dynnu sylw at reoliadau adeiladu, sydd wedi amrywio’n helaeth ar reoliadau Lloegr ers 2011.
Ond mae’r Papur Gwyn yn nodi y gallai’r amrywiaeth rhwng Cymru a Lloegr fod yn rhwystr i brosiectau dylunio a chynllunio yng ngwledydd Prydain.
Mae Plaid Cymru hefyd yn anfodlon na chafodd yr ymgynghoriad a’r Papur Gwyn eu cyflwyno ar y cyd gan Lywodraeth Prydain a’r llywodraethau datganoledig.
‘Llywodraeth San Steffan yn methu cuddio’u dirmyg’
“Bedair wythnos a chyfres o gwestiynau trymlwythog dros yr haf tra nad yw’r Senedd yn eistedd yw’r cyfan mae’r Llywodraeth San Steffan hon wedi’i roi i bobol yn nhermau ymgynghoriad ar symudiad sylfaenol yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig,” meddai Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru.
“Mae hi fel pe bai Llywodraeth San Steffan yn methu cuddio’u dirmyg at ddatganoli.
“Cipio grym yw hyn, yn syml iawn.
“O dynnu’n ôl yn noeth alluoedd sydd eisoes yng Nghymru i’r ffaith na chafodd y ddeddfwriaeth hon ei chynnig ar y cyd â’r gweinyddiaethau datganoledig, mae Llywodraeth San Steffan yn hollti dau ddegawd o ddatganoli.
“Fydd pobol ddim yn cael eu twyllo gan San Steffan yn gwrthddweud eu bod yn ychwanegu at ddatganoli.
“Dim ond lleihau gallu Cymru i dorri’i chwys ei hun fydd hyn.”