O heddiw (dydd Llun, Awst 10), mae campfeydd, pyllau nofio, canolfannau hamdden a stiwdios ffitrwydd dan do yn gallu ailagor yng Nghymru.
Ond fydd Canolfan Hamdden Pentwyn yng Nghaerdydd ddim yn ailagor i’r cyhoedd gan ei bod yn parhau i gael ei defnyddio gan dîm rygbi Gleision Caerdydd.
Mae deiseb gan gynghorwyr yr ardal yn galw ar y rhanbarth i ddod o hyd i gartref newydd er mwyn i bobol leol gael defnyddio’r adnoddau unwaith eto.
Gan fod Parc yr Arfau yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, mae’r rhanbarth yn defnyddio’r Ganolfan Hamdden i ymarfer.
‘Pryder lleol’
Yn ôl tri o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn ardal Pentwyn – Joe Carter, Dan Naughton ac Emma Sandrey – mae’r sefyllfa yn bryder i bobol sydd yn byw ger y Ganolfan Hamdden.
“Mae preswylwyr ledled Pentwyn a Llanedeyrn wedi bod yn pryderu na fydd Canolfan Hamdden Pentwyn ail agor yr un pryd â chanolfannau hamdden eraill”, meddai’r cynghorwyr.
“Rydym yn deall ac yn cefnogi’r angen i Gleision Caerdydd gael rhywle i hyfforddi tra nad yw eu cyfleusterau hyfforddi arferol ar gael oherwydd bod y stadiwm yn cael ei defnyddio fel rhan o ysbyty maes Calon y Ddraig.
“Rydym hefyd yn cydnabod y gall fod angen yr ysbyty yma os bydd ail don o Covid-19.
“Rydym felly wedi lansio deiseb yn galw ar Gyngor Caerdydd a Gleision Caerdydd i weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i safle arall lle gallai’r tîm hyfforddi fel y gall y gymuned ym Mhentwyn a Llanedeyrn gael mynediad i’w canolfan hamdden leol unwaith eto.”
Cytundeb tymor byr
Cafodd y cytundeb tymor byr rhwng y rhanbarth, Cyngor Caerdydd a Greenwich Leisure Limited ei gyhoeddi fis Mehefin.
Dydy hi ddim yn glir tan pryd y bydd y Gleision yn defnyddio’r adnoddau, ond mae’n debyg bod y rhanbarth yn talu am ddefnyddio’r ganolfan hamdden.
Bydd Gleision Caerdydd yn wynebu’r Scarlets ym Mharc y Scarlets ar Awst 22, ac yn chwarae eu gêm gartref yn erbyn y Gweilch yn Rodney Parade yr wythnos ganlynol.
Wrth ymateb i bryderon lleol, mae Better Cardiff, sydd yn rhan o gwmni Greenwich Leisure Limited wedi cadarnhau y bydd aelodau Canolfan Hamdden Pentwyn yn cael defnyddio campfeydd eraill y cwmni yn y brifddinas yn y cyfamser.