Bydd Gleision Caerdydd yn gorfod mentro i dir eu hen elynion i chwarae gweddill eu gemau cartref yng nghystadleuaeth rygbi’r Pro14 – yn Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Mae Parc yr Arfau, lle mae’r Gleision yn arfer chwarae gemau cartref, wedi ei droi yn rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, a gafodd ei sefydlu yn sgil pandemig y coronafeirws.

Rodney Parade yw cartref Dreigiau Casnewydd ac mae’r gêmau darbi rhwng y ddau ranbarth fel rheol ymhlith rhai mwya’ cystadleuol y tymor.

Ailddechrau

Cafodd y Pro14 ei ohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig, ond bydd yn ailddechrau ym mis Awst, gyda’r gêmau i gyd mewn stadiymau gwag, os na fydd canllawiau’n newid.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau ar y penwythnos agoriadol ar Awst 22 a 23 a’r tymor yn cael ei gwblhau dros gyfnod o bedair wythnos, gyda’r rownd derfynol ar Fedi 12.

Bydd gemau darbi traddodiadol yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos olaf mis Awst yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.