Bydd Connor Roberts, cefnwr de Cymru, yn chwarae yn ei ganfed gêm dros dîm pêl-droed Abertawe heno, wrth i’r Elyrch gystadlu â Chaerdydd am y lle olaf yn y gemau ail gyfle.
Wrth i Abertawe deithio i Reading, byddan nhw’n gobeithio y gall Hull guro Caerdydd, gan y byddai pwynt yn ddigon i’r Adar Gleision gau eu cymdogion allan o’r ras.
Daeth ei gêm gyntaf yn y gwpan yn erbyn Wolves ddwy flynedd yn ôl, ac yntau wedi bod yn ddeilydd tocyn tymor yn y Liberty cyn hynny ac yn aelod o’r Academi.
“Cyn i fi chwarae i Abertawe, ro’n i’n meddwl, ‘Jyst rhowch un gêm i fi fel y galla i ddweud bo fi wedi chwarae i Abertawe’, a dw i wedi gwneud hynny,” meddai.
“Pan o’n i’n cefnogi’r Elyrch, ro’n i’n gwylio Wilfried Bony ar ei anterth yn sgorio goliau i ni.
“Cyn y gêm honno yn erbyn Wolves, fe wnaeth e fynd â fi i’r naill ochr a dweud, ‘Croesa hi i’r cwrt cosbi a bydda i yno’.
“Felly es i o’i wylio fe o’r eisteddle i sefyllfa lle’r oedd e’n dweud wrtha i ei fod e eisiau i fi groesi’r bêl iddo fe, felly roedd hynny’n eitha swreal.”
O nerth i nerth
Ers hynny, mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, ac mae e ar fin dilyn yn ôl troed ei gapten Matt Grimes wrth chwarae yn ei ganfed gêm.
Er i’r clwb ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, cafodd Connor Roberts ail wynt o dan reolaeth Graham Potter.
Mae tymor llwyddiannus o dan arweiniad Steve Cooper yn gweld yr Elyrch ar drothwy’r gemau ail gyfle.
Ac oni bai am y coronafeirws, fe fyddai’n debygol o fod wedi teithio i’r Ewros gyda Chymru dros yr haf.
“Mae’r cyfan wedi digwydd yn gyflym iawn, a bydda i’n cyrraedd 100 o gemau mewn dau dymor a haner,” meddai.
“Dw i wedi cadw cofnod o’r holl gemau rydyn ni wedi’u chwarae.
“Pan gyrhaeddais i’r 50, fe wnes i osod y nod o 100.
“Dim ots beth fydd yn digwydd am weddill fy ngyrfa, galla i ddweud ’mod i wedi chwarae 100 o weithiau i Abertawe.
“Dw i’n foi lleol ac ro’n i eisiau chwarae i Abertawe.
“Nawr dw i ar fin gwneud fy nghanfed ymddangosiad – all neb dynnu hynny oddi arna i.”
Gêm fawr i’r clwb
Ar achlysur ei ganfed gêm, bydd yr Elyrch yn gobeithio am fuddugoliaeth a bod Caerdydd yn colli, neu fod Nottingham Forest yn colli yn erbyn Stoke gyda gwahaniaeth goliau o bump.
Mae Connor Roberts yn ddigon gobeithiol.
“Mae hi’n noson fawr nos Fercher,” meddai.
“Gall unrhyw beth ddigwydd, ac me’r Bencampwriaeth wedi profi hynny.
“Ac mae’n noson gyffrous i’r gynghrair yn gyffredinol gan nad yw’r llefydd dyrchafiad, ail gyfle na gostwng wedi cael eu penderfynu eto.
“Byddwn ni’n canolbwyntio arnon ni ein hunain a dim byd arall.
“Os na fyddwn ni’n cyrraedd y gemau ail gyfle yna byddwn ni’n edrych arnon ni ein hunain a’r rhesymau pam wnaethon ni ddim cyrraedd.
“Ond byddai sicrhau lle yn y gemau ail gyfle yn fy nghanfed gêm yn anhygoel.”