Mae Nigel Short yn gadael ei rôl yn gadeirydd ar ranbarth rygbi’r Scarlets ar ôl naw mlynedd.
Ond fe fydd yn parhau’n aelod o’r Bwrdd ac yn cynrychioli’r rhanbarth ar y Bwrdd Rygbi Proffesiynol am y tro.
Mae Simon Muderack wedi’i benodi’n Gadeirydd Gweithredol, gan ddechrau ar y gwaith ar unwaith.
Wedi’i eni a’i fagu yn Llanelli, ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ffwrnes a Choleg Llanymddyfri, graddiodd e mewn Gweinyddu Busnes ym Mhrifysgol Caerfaddon ac fe fu’n gweithio ers blynyddoedd yn y sector technoleg gan sefydlu ac uno sawl cwmni cyn dod yn Brif Weithredwr ar gwmni cyfathrebu Hansen.
Cyfnod Nigel Short wrth y llyw
Fe wnaeth Nigel Short olynu Huw Evans yn gadeirydd yn 2011.
Ers hynny, mae’r Scarlets wedi mynd o nerth i nerth yn y PRO14, ac mae llif cyson o chwaraewyr wedi cynrychioli Cymru.
Enillon nhw’r PRO12 yn 2016-17, gan gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth y tymor canlynol gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop yr un flwyddyn.
Mae’r clwb hefyd wedi cymryd camau breision oddi ar y cae i sicrhau bod chwaraewyr lleol yn cynrychioli’r rhanbarth.
Atgofion
“Wrth gwrs, roedd bod yn dyst i lawenydd ennill teitl y PRO12 yn foment arbennig, ond dw i’n fwyaf balch o’r ffaith nad yw’r Bwrdd fyth wedi gwyro wrth warchod buddsoddiad sylweddol yn ein strwythurau datblygu, yn enwedig drwy gydol cyfnod heriol dros ben a hyd yn oed nawr wrth i ni ymgiprys â cholledion catastroffig mewn refeniw yn sgil Covid-19,” meddai Nigel Short.
“Yr athroniaeth honno a’r buddsoddiad parhaus sy’n gyrru’n cynaladwyedd ac sy’n darparu’r llwybr i alluogi’r llif rhagorol o dalent mae ein cymuned fach yn ei fwynhau i wireddu eu breuddwydion.
“Mae ein cyfraniad i’r gêm yng Nghymru yn sgil nifer chwaraewyr y Scarlets, o’r presennol a’r gorffennol, sydd wedi cynrychioli ein tîm cenedlaethol, ynghyd â darparu mwyafrif tîm hyfforddi cenedlaethol Cymru yn destun cryn falchder i’n clwb a’n cymuned.
“Cael bod yn geidwad clwb rygbi mawr sydd â hanes balch dros gyfnod o 150 mlynedd yw fy mraint fwyaf, a dw i wir yn edrych ymlaen at ein hesblygiad parhaus ar y cae ac oddi arno, gan sicrhau bod ein dyfodol hyd yn oed yn fwy llewyrchus na’n gorffennol.”