Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull ar strydoedd Ashington yn Swydd Northumberland ar gyfer angladd Jack Charlton, y cyn-bêldroediwr a rheolwr, fu farw’n gynharach yn y mis yn 85 oed.
Cafodd ei gludo trwy strydoedd ei fro enedigol lle dysgodd e a’i frawd Bobby eu sgiliau pêl-droed yn blant.
Roedd Jack Charlton yn un o gewri Leeds United ac, ynghyd â’i frawd, yn aelod o dîm Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 1966.
Yn fwy diweddar, roedd yn rheolwr ar dîm Gweriniaeth Iwerddon.
Fe wnaeth y dorf gymeradwyo a bloeddio wrth i’w arch fynd ar hyd y strydoedd cyn gadael am Newcastle ar gyfer angladd preifat yn unol â chanllawiau’r coronafeirws.
Ymhlith y blodau ger ei arch roedd teyrnged â “Jackie 5” arni, sef ei rif fel chwaraewr, ac fe wnaeth pibydd arwain yr osgordd ar ran o’r daith.
Teyrnged y teulu
Fe fu Jack Charlton yn byw â dementia a lymffoma am beth amser.
Adeg ei farwolaeth, dywedodd ei deulu ei fod e’n “ddyn cwbl onest, caredig, doniol a diffuant oedd bob amser ag amser i bobol”.
Dywedon nhw y byddai “bwlch mawr” yn eu bywydau ond eu bod nhw’n “ddiolchgar am oes o atgofion hapus”.