Mae Jofra Archer wedi cael ymuno â charfan griced Lloegr eto ar ôl cael dau brawf coronafeirws negyddol wrth ynysu.

Fe fu’r bowliwr cyflym dan y lach yn ddiweddar am dorri rheolau ynysu’r garfan wrth fynd adref i Hove ar ei ffordd o Southampton i Fanceinion, a hynny yn erbyn amodau “swigen” y garfan i’w cadw nhw gyda’i gilydd ac i ffwrdd o’r byd tu allan.

Mae Lloegr yn herio India’r Gorllewin ar hyn o bryd, ac yn aros yn y caeau ym Manceinion a Southampton.

Cafodd ei wahardd o’r garfan ar gyfer yr ail brawf yn dilyn yr helynt, ac fe fu’n rhaid iddo ynysu am bum niwrnod.

Ar ôl dod i gysylltiad â rhywun anhysbys wrth fynd adref, mae e bellach wedi pasio dau brawf ac fe fydd yn ymarfer gyda gweddill y garfan cyn y trydydd prawf sy’n dechrau ddydd Gwener (Gorffennaf 24).