Fe fydd gweithio’n galed a hyder yn allweddol i dîm pêl-droed Abertawe os ydyn nhw am gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.
Maen nhw driphwynt islaw Caerdydd, sy’n chweched, ac felly mae’n rhaid cael triphwynt i gadw eu gobeithion yn fyw.
Byddai gêm gyfartal ac un pwynt yn ddigon i’r Adar Gleision yn erbyn Hull, a dydy Nottingham Forest ddim allan o’r ras yn llwyr eto chwaith.
Mae Nottingham Forest yn herio Stoke a bydd Abertawe’n gobeithio am gymorth gan Stoke yn y gêm honno fel nad yw gwahaniaeth goliau’n ystyriaeth yn y pen draw.
Er yr holl sefyllfaoedd posib, dim ond ar berfformiad yr Elyrch y bydd Steve Cooper yn canolbwyntio.
“Rhaid i ni ennill, ac fe ddywedon ni cyn y gêm yn erbyn Bristol City fod rhaid i ni gael chwe phwynt,” meddai.
“Mae gyda ni dri, ac mae tri i fynd a dyna fyddwn ni’n anelu ato.
“Allwn ni ddim ond gofalu am y pethau o fewn ein rheolaeth ni, a rhaid i bethau fynd o’n plaid ni mewn llefydd eraill hefyd.
“Ond os na wnawn ni’n pethau ni, ddaw ’na ddim da ohoni.
“Dydy hi ddim jyst yn fater o sgorio goliau, rydyn ni eisiau osgoi ildio hefyd.
“Rydyn ni eisiau chwarae pêl-droed ymosodol, dyna’n syniad cyntaf ni o hyd.
“Dydy hi ddim yn wahanol iawn i’r hyn fydden ni’n ei wneud mewn unrhyw gêm. Gêm bêl-droed yw hi o hyd, a rhaid i ni wneud y pethau sylfaenol.
“Rhaid i ni weithio’n galed, rhaid i ni fod yn hyderus.
“Dyna’n man cychwyn ni cyn poeni am unrhyw beth arall.”