Cafodd swyddog yr heddlu ei anafu’n ddifrifol a nifer o bobl eraill eu hanafu wrth i filoedd o bobl ymgasglu i ddathlu clwb pêl-droed Leeds United yn ennill y Bencampwriaeth ddydd Sul (Gorffennaf 19).

Fe ddechreuodd y gwaith o glirio’r llanast fore dydd Llun (Gorffennaf 20) ar ôl i tua 7,000 o bobl ddod ynghyd yn Sgwâr y Mileniwm yn y ddinas i ddathlu’r clwb yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair wedi 16 mlynedd.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bod swyddog wedi cael ei tharo gyda photel a’i chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w phen.

Cafodd nifer o swyddogion eraill fan anafiadau hefyd ynghyd 15 aelod o’r cyhoedd. Roedd naw o bobl wedi cael eu harestio am droseddau’n ymwneud a’r drefn gyhoeddus, meddai’r heddlu.

Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl dros dro Oz Khan bod “y mwyafrif o’r cefnogwyr wedi bod yn dathlu a mwynhau eu hunain ond roedd carfan fechan o bobl wedi dechrau taflu poteli at swyddogion yr heddlu.”

Fe rybuddiodd hefyd bod “Covid-19 yn dal gyda ni ac nad yw cyfarfodydd mawr o bobl yn cael eu caniatáu.”

Mae ’na bryderon y bydd golygfeydd tebyg pan fydd gem ola’r tymor yn erbyn Charlton yn cael ei chynnal ddydd Mercher.

Mae cadeirydd Leeds Andrea Radrizzani wedi apelio ar gefnogwyr i ymddwyn yn “gyfrifol.”