Wrth i Gymdeithas yr Iaith lansio ymgyrch newydd heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19) i wneud Cymraeg yn brif iaith chwaraeon yng Nghymru, mae golwg360 wedi bod yn siarad â phrif weithredwr newydd Criced Cymru.
Cafodd Leshia Hawkins ei phenodi i’r swydd fis Tachwedd y llynedd, yn dilyn cyfnod yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ar brosiect Ysbrydoli’r Cenedlaethau yn siroedd Llundain.
Ers hynny, mae hi wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg…
A hithau wedi graddio mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Durham, dywedodd Leshia Hawkins wrth golwg360 mai “ieithoedd yw fy mhethau i” a’i bod hi’n dysgu Cymraeg ers rhai misoedd.
“Astudiais i ieithoedd yn y brifysgol, Ieithoedd Modern Ewrop ac roedd rhaid i fi wneud TGAU Lladin hefyd, felly dw i ychydig bach o geek ieithoedd.
“Cymro oedd fy nhad-cu, ac roedd ei dad e’n sicr yn siarad Cymraeg.
“Daeth fy nhad i’r brifysgol yng Nghaerdydd, felly er does gyda fi ddim cysylltiad mawr â Chymru, dw i eisoes yn teimlo’n gartrefol.
“Dw i’n teimlo’n gartrefol iawn, dw i wedi cael croeso cynnes iawn.”
Mynd ati i ddysgu Cymraeg
Mae Leshia Hawkins yn dysgu Cymraeg ar y we fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru ac mae hi wedi dechrau ar adeg pan fo gwersi’n cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod y coronafeirws.
Mae’n dweud mai dysgu iaith y gwlad lle’r ydych chi’n byw yw’r “peth cwrtais i’w wneud”, ac nad oedd hi am fod “y Sais sy’n pwyntio a gweiddi’n uchel yn Saesneg”.
“Hyd yn oed os galla i ddweud digon er mwyn bod yn ddymunol, yna mae hynny’n beth da,” meddai.
“Mae hi’n eitha’ anodd ar-lein gyda dosbarth o ryw 15 o bobol, mae’n eitha’ anodd i’r tiwtor glywed pawb a chywiro’r ynganu ac ati,” meddai.
“Dw i’n gallu sgwrsio o ddydd i ddydd a dweud wrth bobol ’mod i’n hoffi nofio ac ati, ac mae’n dipyn o hwyl.
“Ces i wybod fod gen i acen ogleddol, er nad ydw i erioed wedi bod yn y gogledd, felly dw i ddim yn siŵr sut dw i wedi cyflawni hynny!
“Dw i ddim yn meddwl y bydda i’n cyfansoddi unrhyw beth yn Gymraeg yn y dyfodol agos, mae ’ngramadeg i’n eitha’ gwael!
“Ond dw i wrth fy modd, mae hi’n iaith sy’n ennyn chwilfrydedd ac unwaith rydych chi’n dechrau dysgu’r darnau sy’n cael eu dysgu, mae hi’n iaith eitha’ synhwyrol ond mae hi’n gallu codi ofn os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r synnau i gyd.
“Felly ydw, dw i wedi bod yn dysgu, dw i ryw ddeufis i mewn a bydda i’n sicr yn parhau, ond dw i ddim yn meddwl y bydda i’n cael fy nghyfweld mewn Cymraeg rhugl yn y dyfodol agos!”